Aelodau

Beacons Creative

Beacons creative logo

 

Menter Gymdeithasol unigryw yw Beacons Creative Cymru sy'n cynhyrchu canhwyllau a chynnyrch cysylltiedig er mwyn cynnig cyflogaeth a hyfforddiant i bobl sydd ag anawsterau dysgu yn ogystal â'r rhai sy'n cael y drafferth fwyaf i fyned i'r gweithlu.

Tarddiad y cwmni oedd gwasanaeth gofal dydd a ddarparwyd am unarddeg mlynedd gan Gyngor Sir Powys gyda chymorth Cwmnïau Cymdeithasol Cymru, a gafodd ei allanoli ym mis Mehefin 2009 i ffurfio cwmni cyfyngedig drwy warant.

Amcanion y cwmni yw datblygu gwerthiant, creu cynnyrch newydd, darparu cyfleoedd cyflogaeth i ddefnyddwyr gwasanaeth mewn amgylchedd diogel a gofalgar, a thrawsnewid gwasanaeth gofal dydd yn fusnes llwyddiannus a phroffidiol. Maent yn cynhyrchu ystod o ganhwyllau persawrus, canhwyllau pwrpasol, ffaglau tân, ac eli organig gan ddefnyddio deunyddiau wedi'u hailgylchu lle bynnag y bo hynny'n bosibl.

Ffôn: 01874 611333

www.beaconscreative.co.uk

Brecon, Powys

Cadwch mewn cyswllt gyda ein rhwydwaith cymdeithasol

Ffrwd Twitter

Cylchlythyr Cofrestrwch Up

Tanysgrifio

polisi cwcis | polisi preifatrwydd | map o'r safle

Hawlfraint 2014. Cedwir pob hawl