Aelodau

CAIS Ltd

CAIS Ltd

 

Mae CAIS yn elusen gofrestredig ac yn un o brif ddarparwyr y sector gwirfoddol o wasanaethau cefnogaeth bersonol i Gymru.

Maent yn helpu pobl sy'n cael problemau gyda gorddibyniaeth, iechyd meddwl, datblygiad personol a chyflogaeth - yn ogystal â chynnig cymorth a gwybodaeth ar gyfer eu teuluoedd a'u ffrindiau. Maent yn cynnig amrywiaeth eang o wasanaethau gan gynnwys triniaeth breswyl ac adsefydlu, cyngor un-i-un, mentora, cefnogi pobl yn eu cartrefi, cynhorthwy wrth fyned yn ôl i waith neu addysg, gwaith grŵp ac ymyriadau ysgogiadol eraill.

Gallent hefyd gynnig ystod gynhwysfawr o gyrsiau hyfforddiant, ynghyd â hyfforddiant a chefnogaeth i gyflogwyr. Maent yn hynod weithgar o ran ymyriadau ym materion cyflogaeth gan gynnwys datblygu eu mentrau cymdeithasol eu hunain.

Mae CAIS yn ymrwymedig i weithio mewn partneriaeth ag eraill yn unol â Strategaeth Cymru Gyfan - Delio â Chamddefnyddio Sylweddau yng Nghymru. Mae pob un o'u gwasanaethau yn anelu at helpu pobl i wella o ddibyniaeth ac ailadeiladu ffyrdd o fyw arferol, cynhyrchiol yn y gred y gall pobl llwyddo i newid eu patrwm bywyd.

Ffôn:   01492 863 000

www.cais.co.uk

Conwy

Cadwch mewn cyswllt gyda ein rhwydwaith cymdeithasol

Ffrwd Twitter

Cylchlythyr Cofrestrwch Up

Tanysgrifio

polisi cwcis | polisi preifatrwydd | map o'r safle

Hawlfraint 2014. Cedwir pob hawl