Aelodau

Crest Cooperative Ltd

crest logo

Sefydlwyd cwmni cydweithredol Crest Cyf yn 1998. Nod y prosiect gwreiddiol oedd sefydlu cwmni cydweithredol cymunedol i helpu pobl anabl a di-waith i gynyddu eu sgiliau a dod o hyd i swydd - naill ai o fewn Crest Cyf neu i symud ymlaen i gyflogaeth gynaliadwy o fewn y gymuned.

Wedi'r prosiect orffen ei drydedd flwyddyn mi oedd y cwmni cydweithredol bellach yn gwmni Cyfyngedig Nid-Er-Elw. Cafwyd grant pellach o arian loteri er mwyn i'r cwmni cydweithredol ddatblygu cyrsiau hyfforddiant galwedigaethol er mwyn helpu pobl dan anfantais sydd wedi eu heithrio'n gymdeithasol i ennill sgiliau bywyd, yn ogystal â phrofiad gwaith go iawn, mewn amgylchedd cefnogol. Sefydlwyd dau fusnes cymunedol o fewn y cwmni cydweithredol er mwyn hwyluso cyflwyno'r hyfforddiant.

Yn ystod y pum mlynedd wedi esblygiad y cwmni sylwyd ar botensial y sector cymdeithasol i ddarparu gwasanaethau ailgylchu oherwydd oblygiadau twf y maes hwn i fusnesau o fewn y DU. Oherwydd y ddeddfwriaeth newydd i gynnal systemau ailgylchu yng Nghymru, datblygwyd tair menter ailgylchu newydd gan Crest - gyda'r nod yn y pen draw o fod yn fenter gymdeithasol hunangynhaliol - heb anghofio am yr ethos gwreiddiol o weithio gydag a chefnogi unigolion dan anfantais.

Ffôn: 01492 596783

www.crestcooperative.co.uk

Llandudno Junction, Conwy

Cadwch mewn cyswllt gyda ein rhwydwaith cymdeithasol

Ffrwd Twitter

Cylchlythyr Cofrestrwch Up

Tanysgrifio

polisi cwcis | polisi preifatrwydd | map o'r safle

Hawlfraint 2014. Cedwir pob hawl