Aelodau

Creating Enterprise

Creating Enterprise logo

 

Mae Creu Menter yn fenter gymdeithasol lwyddiannus a sefydlwyd ym mis Ebrill 2015. Y Contractwr Cymdeithasol o Ddewis - ryn darparu gwasanaethau cynnal a chadw adeiladau o ansawdd, sy’n rhoi gwerth am arian i sefydliadau’r sector cyhoeddus a phreifat.

Ar yr un pryd, mae Creu Menter yn cefnogi ein nodau cymdeithasol o greu cyfleoedd gwirfoddoli, hyfforddi a chyflogaeth ar gyfer tenantiaid tai cymdeithasol drwy ein Hacademi Gyflogaeth unigryw.

Mae gan Creu Menter ddwy ran, yn cwmpasu Gwasanaethau Eiddo ar yr ochr fasnachol a Gwasanaethau Pobl gyda’n Hacademi Gyflogaeth.

Rydym yn darparu Gwasanaethau Eiddo fel peintio ac addurno, ffensio, cynnal a chadw, a rheoli cyfleusterau ar gyfer eiddo Cartrefi Conwy a chleientiaid eraill yn y sectorau cyhoeddus a phreifat.

Mae ein Hacademi Gyflogaeth yn rhoi cyfleoedd gwaith am dâl i denantiaid Cartrefi Conwy gyda hyfforddiant yn y gwaith, cefnogaeth a chymwysterau cyflogaeth. Rydym hefyd yn cynnig cyfleoedd gwirfoddoli a lleoliadau swyddi am dâl drwy ein Hasiantaeth Recriwtio.

Mae Creu Menter yn is-gwmni sy’n eiddo llawn i Gymdeithas Tai Cartrefi Conwy.

Canfu ymgynghoriad â thenantiaid y canlynol:

·         Dywedodd 59% nad oeddent wedi gallu parhau mewn cyflogaeth yn y flwyddyn gyntaf, am amrywiaeth o resymau

·         Teimlai 23% nad oedd digon o gymorth yn lleol er mwyn dod o hyd i gyflogaeth addas

·         Dywedodd 75% y byddant yn gwirfoddoli pe bai’n arwain at swydd lawn amser

Sefydlwyd Creu Menter i ymateb i’r angen am sgiliau, hyfforddiant, cefnogaeth a chyflogaeth ar gyfer tenantiaid sy’n ddi-waith.

 

Mochdre, Conwy

 

Ffôn: 01492 588980

www.creatingenterprise.org.uk

facebook.com/creatingenterprise

Twitter: @CreatingE

Abergele, Conwy

Cadwch mewn cyswllt gyda ein rhwydwaith cymdeithasol

Ffrwd Twitter

Cylchlythyr Cofrestrwch Up

Tanysgrifio

polisi cwcis | polisi preifatrwydd | map o'r safle

Hawlfraint 2014. Cedwir pob hawl