Aelodau

Diverse Excellence Cymru Ltd

Diverce Cymru logo

 

Mae Diverse Cymru yn fudiad cydraddoldeb arloesol yn y Trydydd Sector Cymru, a grëwyd i gydnabod yr anawsterau a gwahaniaethu a wynebir gan bobl sy'n profi anghydraddoldeb yng Nghymru.

Elusen Gymreig unigryw yw Diverse Cymru, sy’n ymroddedig i gefnogi pobl sy’n wynebu anghydraddoldeb a gwahaniaethu oherwydd oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gredoau, rhyw ac ymlyniad rhywiol

Mae Diverse Cymru yn anelu at wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl drwy ddarparu gwasanaethau sy'n lleihau anghydraddoldeb a chynyddu annibyniaeth; cefnogi pobl i siarad drostynt eu hunain ac i gysylltu gyda'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau; creu cyfleoedd i gyfranogi a datblygu; godi ymwybyddiaeth o faterion cydraddoldeb; ac ysbrydoli pobl i weithredu yn erbyn anghydraddoldeb.

Gweledigaeth Diverse Cymru yw 'byd heb ragfarn neu wahaniaethu, lle mae pob person yn gyfartal ac amrywiaeth yn cael ei ddathlu'. Byddant yn gwneud hyn drwy :

Darpariaeth - Darparu gwasanaethau sy'n lleihau anghydraddoldeb
Hyrwyddo - Cynyddu ymwybyddiaeth o faterion cydraddoldeb
Cyfranogiad - Galluogi pobl yr effeithir arnynt gan anghydraddoldeb i ymgysylltu a siarad drostynt eu hunain
Ysbrydoli gweithredu - Cymell pobl i gymryd camau yn erbyn anghydraddoldeb

Ffôn : 01267 245579

www.diversecymru.org.uk

Cardiff 

Cadwch mewn cyswllt gyda ein rhwydwaith cymdeithasol

Ffrwd Twitter

Cylchlythyr Cofrestrwch Up

Tanysgrifio

polisi cwcis | polisi preifatrwydd | map o'r safle

Hawlfraint 2014. Cedwir pob hawl