Local Leader Wins National Leadership Award

Thursday, 28 September 2017
Arweomydd Lleol yn Ennill Gwobr Genedlaethol am Arweinyddiaeth

Leading Wales Awards Logo

 

ARWEINYDD LLEOL YN ENNILL GWOBR GENEDLAETHOL AM ARWEINYDDIAETH 

 

Cydnabuwyd Rheolwr Datblygu Cymdeithas Marchnad Gymunedol Glanyrafon Gareth Simpson am arddangos arweinyddiaeth wych gan gipio'r wobr yn y categori Menter Gymdeithasol - a noddir gan Gwmnïau Cymdeithasol Cymru mewn cydweithrediad â'r Sefydliad Arweinyddiaeth & Rheolaeth - yng Ngwobrau Arwain Cymru eleni. 

 

Dywedodd Gareth ei fod, "Wedi synnu, ac yn falch iawn i gael fy nghyhoeddi fel enillydd y categori Menter Gymdeithasol. Er mai gwobrau gyfer arweinwyr ydy rhain, rwy'n gweld ein  gwobr yn un ar gyfer y tîm ac ein cefnogwyr sydd wedi gwneud hyn yn bosibl yn bendant."

 

Dyma oedd rhestr fer y wobr Arweinyddiaeth mewn Menter Gymdeithasol:   

Sharon Jones, Cyfarwyddwr Busnes a Phartneriaethau Cwmni Buddiannau Cymunedol "Creu Menter" 

Paul Nagle, Rheolwr SHEDNET  

Gareth Simpson ei hun, sy'n gweithio i Gymdeithas Marchnad Gymunedol Glanyrafon Cyf (neu RCMA Social Enterprise Ltd) fel Rheolwr Datblygu. 

 

Hoffai Cwmnïau Cymdeithasol Cymru longyfarch pawb a gyrhaeddodd y rownd derfynol yn y gystadleuaeth hon. 

 

Dywedodd San Leonard, Prif Swyddog Gweithredol Cwmnïau Cymdeithasol Cymru; 

"Ry ni'n  argyhoeddedig; heb arweinwyr yn ein cymunedau ni fyddem ni'n gweld datblygiad cwmnïau cymdeithasol a mentrau cymdeithasol. Rydym wedi cefnogi Gwobrau Arwain Cymru ers 2010, ac yn hynod o falch i  fod yn gysylltiedig â seremoni wobrwyo o gryn arwyddocâd a gwerth cymdeithasol. Ein rôl ni yw hyrwyddo pwysigrwydd arweinyddiaeth, yr hyn y gellir ei gyflawni ac effaith gadarnhaol arweinyddiaeth gref yn ein cymunedau ledled Cymru." 

 

Dywedodd Phil James, Prif Weithredwr y Sefydliad Arweinyddiaeth & Rheolaeth sy'n cynrychioli arweinwyr a rheolwyr yng Nghymru: "Mae llawer o'r arweinwyr a welsom ni eleni yn rhoi arweiniad pendant ac ysbrydoledig yn eu sefydliad. Credwn fod hyn yn allweddol i gyflawniad personol, lles cymdeithasol a ffyniant economaidd Cymru a'r Deyrnas Gyfunol. Dyna pam cefnogwn Wobrau Arwain Cymru, yn ei hymgais i nodi a dathlu arweinwyr go iawn yng Nghymru."

 

Ychwanegodd Cadeirydd Consortiwm Gwobrau Arwain Cymru Barbara Chidgey: "Yn ystod y blynyddoedd lawer mae’r gwobrau wedi cael eu cynnal, rwyf wedi sylwi yn fwyfwy yn nhystiolaeth yr ymgeiswyr ffocws ar ddulliau arweinyddiaeth gweithrediadol, ble amlinellwyd arweinyddiaeth sy'n canolbwyntio’n fawr ar ddarparu targedau; eu gosod a'u diwallu."

 

"Yng Nghymru - ac mae'n debyg mai yn y Deyrnas Unedig - gan amlaf rydym yn darparu arweinyddiaeth gweithrediadol bron heb ystyried unrhyw ddulliau eraill. Credaf fod angen inni fod yn lawer mwy trawsnewidiol yn ein harwain; trwy ysbrydoli ac ymgysylltu calonnau ac eneidiau ein cydweithwyr fel ein bod yn gweithio fel un endid i gyflawni targedau penodol o'n gwirfodd."

 

"Mae ein rhestr fer ac enillwyr wedi arddangos dull mwy cyflawn o arweinyddiaeth – y gallu i gyflawni'r targedau yn ogystal i ymgysylltu ac ysbrydoli cydweithwyr a rheolwyr. Dyma'r math o arweinyddiaeth a fydd yn wir yn helpu adeiladu'r Cymru rydym ni am ei gweld." 

 

Am fwy o wybodaeth ewch i leadingwalesawards.co.uk 

 

Cadwch mewn cyswllt gyda ein rhwydwaith cymdeithasol

Ffrwd Twitter

Cylchlythyr Cofrestrwch Up

Tanysgrifio

cookies policy | privacy policy | sitemap

Copyright 2014. All Rights Reserved