Prosiect Ailgylchu / Up cylch

Friday, 27 January 2017
Prosiect Ailgylchu / Up cylch

Mae prif adwerthwyr gyda phresenoldeb cenedlaethol am fynd ati i sefydlu gwasanaeth derbyn tecstilau yn ei siopau.

 

Dymuna’r adwerthwr gynnal cynllun peilot yn ei siop yng Nghaerdydd ac mae’n chwilio am bartneriaid sydd â diddordeb, yn enwedig elusennau a mentrau cymdeithasol, i gymryd rhan. Mae’n allweddol i’r adwerthwr hwn bod budd cymdeithasol yn ogystal â budd amgylcheddol i’r prosiect.

 

Mae’r prosiect yn ei gamau cynnar ac nid oes model busnes penodol wedi’i gytuno hyd yma. Mae’n bosibl y bydd nifer o fodelau busnes yn cael eu treialu, fodd bynnag mae’r rhestr ganlynol yn rhoi trosolwg o’r cynigion.

 

  • Bydd cwsmeriaid/y cyhoedd yn dod â thecstilau dieisiau i’r siop – ffabrigau cartref yn ddelfrydol, ond derbynnir unrhyw fath o decstil
  • Bydd elusen/menter gymdeithasol yn casglu’r tecstilau o’r siop ac yn mynd â nhw i’w cyfleuster i’w didoli
  • Bydd dillad neu decstilau eraill y gellir eu hailddefnyddio’n syth yn gallu cael eu gwerthu/pasio ymlaen gan yr elusen neu’r mudiad hwnnw
  • Bydd tecstilau y gellir eu uwchgylchu neu’u hail-bwrpasu yn cael eu pasio i fenter gymdeithasol/elusen i’r diben hwnnw
  • Unwaith y bydd yr eitemau hyn wedi cael eu uwchgylchu neu eu hail-bwrpasu, byddant yn cael eu harddangos ar werth mewn rhan benodol o siop y prif adwerthwr
  • Bydd y prif adwerthwr yn rhoi cyhoeddusrwydd i’r gwasanaeth hwn drwy ddigwyddiadau yn y siop fel gweithdai trwsio ac ailwampio ac ati

 

Gallai nifer o wahanol fathau o fudiadau sy’n cynnig gwahanol wasanaethau gymryd rhan:

 

  • Casglu
  • Didoli a storio
  • Man gwerthu i’r eitemau a ailddefnyddir
  • Sgiliau gwnïo/uwchgylchu – y rhai a fydd yn gwneud y gwaith yn ogystal â’r rhai a fydd yn hyfforddi pobl i wnïo

 

Rydym yn chwilio am fudiadau all gynnig pob un, rhai, neu ddim ond un o’r gwasanaethau uchod

Am fwy o wybodaeth ac i fynegi diddordeb, cysylltwch â [email protected]

Cadwch mewn cyswllt gyda ein rhwydwaith cymdeithasol

Ffrwd Twitter

Cylchlythyr Cofrestrwch Up

Tanysgrifio

cookies policy | privacy policy | sitemap

Copyright 2014. All Rights Reserved