Y Weinidogaeth Ddodrefn; bywyd ar ôl Remploy

Thursday, 22 June 2017
Y Weinidogaeth Ddodrefn; bywyd ar ôl Remploy

Wedi ei leoli yn Ne Cymru yng Nghastell-Nedd Port Talbot , Ministry of Furniture yw’r busnes sydd bellach yn waddol i waith Remploy; sef – tan yn ddiweddar - cyflogwr mwyaf y Deyrnas Unedig o bobl ag anableddau. Maent yn falch tu hwnt o'u treftadaeth; yn wir ers gadael rheolaeth Llywodraeth y D.U. yn 2013 pobl o Remploy sydd wedi mynd ati i berchenogi’r busnes yn gyfangwbl.

Mae cwmni MoF yn arbenigwyr mewn creu a darparu amgylcheddau gweithle a dysgu cyfoes ysbrydoledig. Ganddynt dîm dylunio a rheoli prosiect arbenigol sy’n mwynhau cefnogaeth y feddalwedd modelu BIM a Dylunio 3D diweddaraf. Gweithgynhyrchir detholiad o eitemau craidd o ddodrefn addysgol, a ganddynt hefyd gytundeb i fod yn bartneriaid awdurdodedig  gyda brandiau dodrefn o fri megis Orangebox, Senator International a Grŵp Dylunio Boss.  Mae cwsmeriaid MoF yn cynnwys contractwyr adeiladu mawr yn y Deyrnas Unedig, dros 800 o sefydliadau Llywodraeth Leol megis ysgolion a cholegau ledled y DU, a gweithleoedd fel clwb pêl-droed Dinas Abertawe, Vision Labs UK ac Undeb Rygbi Cymru.

Yn fwyaf diweddar, enillodd Ministry of Furniture gytundeb i uwchgylchu ac ailgynhyrchu dodrefn i’r gweithle ar gyfer Canolfan Dinesig Dinas a Sir Abertawe. Roedd y prosiect arloesol hwn yn cynnwys amrywiaeth o ddesgiau wedi eu hail-beiriannu ac ail-weithgynhyrchu a system storio sy’n cefnogi arferion gweithio hyblyg, tra hefyd yn hyrwyddo agenda cynaliadwyedd Abertawe.

Fel rhan o’r prosiect hwn gweithiodd MoF gyda chwmni rhyngwladol Seddau Orangebox Caerdydd i ail-weithgynhyrchu eu cadair desg fwyaf poblogaidd Ewropeaidd G64. Mae’r gadair arbennig yma i’r swyddfa wedi ei ailgylchu ac ailgweithgynhyrchu ac felly’n meddu ar ôl troed Carbon o 61% o'i gymharu ag un newydd sbon; cyflenwyd am dua 30% o'i gost wreiddiol ac yn cario gwarant pum mlynedd. Sefydlwyd ffrwd busnes newydd i ail-weithgynhyrchu’r cynnyrch hwn ar gyfer Orangebox mewn marchnad ailgynhyrchu sydd yn brysur yn tyfu’n gyflym. Mae'n creu hanner dwsin arall o swyddi i bobl sydd wedi’u dieithrio o’r farchnad swyddi yn Abertawe / ardal Castell-Nedd Port Talbot; ac yn cynnig y cyfle i gwsmeriaid rhoi ystyriaeth go iawn i’w Cyfrifoldeb Cymdeithasol Corfforaethol a’u hagendâu economi cylchol ac amgylcheddol wrth ddewis y cynnyrch hwn.

Cadwch mewn cyswllt gyda ein rhwydwaith cymdeithasol

Ffrwd Twitter

Cylchlythyr Cofrestrwch Up

Tanysgrifio

cookies policy | privacy policy | sitemap

Copyright 2014. All Rights Reserved