Hysbysiad Preifatrwydd 

 

Sut yr ydym yn defnyddio eich gwybodaeth

Gofynnwn i chi ddarllen y polisi preifatrwydd hwn yn ofalus gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth bwysig am beth i'w ddisgwyl pan fydd Cwmnïau Cymdeithasol Cymru yn casglu gwybodaeth bersonol amdanoch chi, a sut y bydd Cwmnïau Cymdeithasol Cymru yn defnyddio eich data personol. Mae'r polisi hwn yn berthnasol i: ymwelwyr â'n gwefan, pobl sy'n cydweithio gyda ni a phobl sy'n cofrestru ar gyfer ein cylchlythyr a diweddariadau eraill.

 

Cysylltwch

Cwmnïau Cymdeithasol Cymru, Blwch Post 85, Porthcawl, Pen-y-Bont ar Ogwr, CF36 9BP. (t) 07799 345 940 (e) [email protected]

Pa wybodaeth sydd gennym?

Mae Cwmnïau Cymdeithasol Cymru yn storio gwybodaeth yr ydych wedi rhoi caniatâd i ni ei chadw a'i defnyddio, a gall peth o hynny fod yn wybodaeth bersonol er enghraifft:

  • Enw

  • Sefydliad

  • Teleffon (gan gynnwys rhif symudol)

  • Cyfeiriad ebost

  • Cyfeiriad eich tŷ

 

Sut yr ydym yn casglu'r wybodaeth hon?

Byddwch chi wedi rhoi'r wybodaeth hon inni gadw ar ein cronfa ddata, neu bosib y byddwn ni wedi derbyn rhywfaint ohoni gan ffynonellau eraill er mwyn ei hychwanegu at y wybodaeth sydd gennym amdanoch eisoes.

 

Beth yr ydym yn ei wneud gyda'r wybodaeth hon?

Caiff y data ei storio'n ddiogel, ac rydym yn diogelu data rhag camddefnydd, ei golli, a datgeliad a mynediad heb awdurdod drwy sicrhau bod mesurau priodol yn eu lle.  Wrth ddinistrio data, rydym yn gwneud hynny'n ddiogel, drwy rwygo copïau caled cyfrinachol a thynnu’r data priodol o'r holl ganolfannau data electronig priodol. Nid ydym yn casglu gormodedd o ddata.

Mae'n bosib byddwn yn defnyddio eich data personol am y rhesymau canlynol:

  • er mwyn cadw cofnodion gweinyddol, gan gynnwys aelodaeth o Gwmnïau Cymdeithasol Cymru

  • er mwyn darparu gwybodaeth ddefnyddiol, gan gynnwys ein cylchlythyr wythnosol sydd yn cael ei ddanfon trwy ebost - byddwch wedi nodi'n barod eich bod am dderbyn gwybodaeth gennym

  • er mwyn cysylltu gyda chi gogyfer â'n gwaith ymchwil

  • i gyflawni dibenion ymgynghorol, cefnogaeth cleientiaid ac aelodaeth.

Rhannu eich gwybodaeth

Bydd eich data personol yn cael ei drin yn gwbl gyfrinachol. Ariennir rhywfaint o'n gwaith craidd drwy Lywodraeth Cymru a sefydliadau eraill.  Yn sgil hyn maent angen adroddiadau ar y gwaith dan sylw. Felly, rhennir y wybodaeth hon gyda'r sefydliadau hyn; fodd bynnag fe fyddwn yn eich cynghori chi a gofyn am eich caniatâd pe bai angen adroddiad cyn i'r gwaith ddechrau . Bydd unrhyw wybodaeth a rennir yn cael ei thrin yn gwbl gyfrinachol gan y sefydliad sy'n ei derbyn.

 

Beth os mae pethau yn newid?

Pan fyddwn yn cysylltu gyda chi, fe fyddwn yn defnyddio'r cyfeiriad, ebost a rhif ffôn diweddaraf yr ydych wedi'u rhannu gyda ni.  Os nad ydych chi'n diweddaru ni am unrhyw newid yn eich manylion yn brydlon, mae'n bosib na fyddwch chi yn derbyn gwybodaeth gennym.

Pe baem ni am newid y modd rydym yn defnyddio eich gwybodaeth, ac yn credu na fyddwch chi'n disgwyl y fath newid, yna fe fyddwn ni yn eich diweddaru chi gyda llythyr neu ebost er mwyn esbonio'r newidiadau.  Os nad ydych chi'n hapus gyda'n cynllun am ein defnydd o'ch gwybodaeth, os gwelwch yn dda rhowch wybod cyn gynted â phosib.  Gymaint â phosib, fe fyddwn ni yn ceisio eich diweddaru chi cyn gwneud unrhyw newidiadau.

Pe bai pethau'n newid fel nad ydych am inni gysylltu efo chi, neu os nad ydych chi am dderbyn gwybodaeth gennym, yna os gwelwch yn dda rhowch wybod trwy ebostio [email protected]

 

Sut y gallwch chi gael copi o'r wybodaeth

Bydd eich gwybodaeth yn cael ei chadw gennym ni ar ffurf papur ac ar ein systemau Technoleg Gwybodaeth a byddwn yn ei chadw'n unol â'n gweithdrefnau.  Pe baech am gael copi o'r wybodaeth sydd gennym amdanoch, gallwch ofyn i ni amdani drwy wneud Cais Gwrthrych am Wybodaeth o dan y Ddeddf Diogelu Data trwy e-bostio [email protected]

 

Am ba hyd y byddwn ni yn cadw eich gwybodaeth?

Fe fyddwn ni yn cadw eich gwybodaeth ar ein cronfa ddata:

  • am y cyfnod o amser rydych chi'n hapus i dderbyn cyfathrebu gennym

  • ar gyfer ein cofnodion monitro, os rydym ni wedi gweithio gyda chi neu wedi eich cefnogi chi trwy ein gwaith

  • cyhyd ag y bo'n angenrheidiol i'n galluogi i reoli'r busnes ac ein perthynas gyda chi yn effeithiol, yn gyfreithlon, ac yn briodol.

Ar hyn o bryd, nid ydym yn bwriadu i ddileu eich gwybodaeth.

 

Eich data chi a'ch hawliau chi

Gennych yr hawliau canlynol parthed eich data personol:

  • gallwch ofyn am gopi o'ch data personol chi sydd gennym ni

  • gallwch ofyn ein bod yn cywiro unrhyw ddata os yw'n ddiffygiol neu angen ei ddiweddaru

  • i ofyn bod eich data personol yn cael ei ddileu lle nad oes yr angen bellach inni gadw data o'r fath

  • i atal eich caniatâd i brosesu'ch data ar unrhyw bryd

  • i wrthwynebu prosesu eich gwybodaeth bersonol mewn amgylchiadau penodol

  • i ofyn i ni ddanfon y wybodaeth bersonol a roddoch chi i ni at sefydliad arall, neu atoch chi, mewn rhai amgylchiadau penodol

Nid oes gofyn i chi dalu am weithredu eich hawliau. Pe baech yn gwneud cais, mae gennym fis i ymateb i chi.

 

Newidiadau i'r hysbysiad preifatrwydd hwn

Cafodd yr hysbysiad preifatrwydd hwn ei ddiweddaru diwethaf ar 8fed Chwefror 2023. Rydym yn adolygu'r hysbysiad preifatrwydd hwn yn rheolaidd a gallwn ei newid o bryd i'w gilydd drwy ddiweddaru'r dudalen hon i adlewyrchu newidiadau yn y gyfraith ac/neu ein gweithdrefnau preifatrwydd. Byddem yn eich annog i wirio'r hysbysiad preifatrwydd hwn am unrhyw newidiadau yn rheolaidd.

 

Dolenni i wefannau allanol

Mae gan ein gwefan dolenni ar gyfer gwefannau eraill.  Mae'r Hysbysiad Preifatrwydd hwn dim ond yn gymwys i'r wefan yma felly pan rydych chi yn ymweld â gwefan arall, os gwelwch yn dda darllenwch eu Hysbysiad Preifatrwydd nhw.

 

Beth i wneud os nad ydych chi'n hapus gyda sut yr ydym wedi gofalu am eich gwybodaeth

Os gwelwch yn dda, rhowch wybod os nad ydych chi'n hapus efo'r modd rydym wedi defnyddio eich gwybodaeth bersonol trwy gysylltu gyda San Leonard, Cyfarwyddwr, Cwmnïau Cymdeithasol Cymru ar ebost [email protected] .

 

Gennych hefyd yr hawl i gwyno i'r Comisiynydd Gwybodaeth , Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow, Cheshire. www.ico.org.uk neu ffoniwch 0303 123 1113.

 

Cadwch mewn cyswllt gyda ein rhwydwaith cymdeithasol

Ffrwd Twitter

Cylchlythyr Cofrestrwch Up

Tanysgrifio

polisi cwcis | polisi preifatrwydd | map o'r safle

Hawlfraint 2014. Cedwir pob hawl