Aelodau

Agoriad Cyf

Agoriad Cyf logo

 

Sefydlwyd Agoriad Cyf yn 1992 gyda’r bwriad o ddatblygu cyfleoedd gwaith i bobl anabl, tan-anfantais a’r di-waith tymor hir.  Ers hynny,  mae llawer iawn o’u cleientiaid wedi cael budd o’u profiadau gydag Agoriad, gan ddatblygu’n gyfranwyr ffyddlon ac effeithlon i’w cyflogwyr. 

Mae Agoriad wedi esblygu i fod yn ddarparwr arbenigol o wasanaethau recriwtio, cyflogaeth a hyfforddiant. Mae'r tîm yn dod o hyd i’r cyfleoedd gorau ac yn paru'r rhain gyda’r hyfforddiant priodol wrth iddynt weithio gyda busnesau er mwyn sicrhau trosglwyddiad di-dor i'r gweithle i'w cleientiaid. 

Mae Agoriad yn darparu ei wasanaethau ledled Cymru. Cefnogir y Swyddfa Gorfforaethol ym Mangor gan swyddfeydd rhanbarthol ym Mhwllheli, Dolgellau a Chaergybi. 

Mae agoriad yn rheoli pedwar Cwmni Cymdeithasol; Dŵr Ceris Cyf, Tŷ Te a Chaffi Llys Llewelyn, Caffi Coed-Y-Brenin, ac yn fwyaf diweddar, Caffi’r Parc.  Mae pob un ohonynt wedi eu rhestri ar wahân yn y cyfeiriadur hwn

www.agoriad.org.uk

Bangor, Gwynedd

Cadwch mewn cyswllt gyda ein rhwydwaith cymdeithasol

Ffrwd Twitter

Cylchlythyr Cofrestrwch Up

Tanysgrifio

polisi cwcis | polisi preifatrwydd | map o'r safle

Hawlfraint 2014. Cedwir pob hawl