Maniffesto


Maniffesto ar Gyfer y Sector Mentrau Cymdeithasol yng Nghymru
 

Gall y sector mentrau cymdeithasol yng Nghymru chwarae rhan allweddol yn helpu i ailadeiladu economi tecach, mwy cynhwysol, a chynaliadwy. Maent wedi’u gwreiddio yn eu cymuned; yn fynych, maent ym mherchenogaeth y gymuned; maent yn cyflogi’n lleol ac, yn aml, mae gwella’u hardal leol yn ganolog i’w nodau cymdeithasol.

Ym mis Gorffennaf 2020, lansiwyd ‘Trawsnewid Cymru trwy Fenter Gymdeithasol’; gweledigaeth a chynllun gweithredu 10 mlynedd i’r sector. Lluniwyd y weledigaeth a’r cynllun gweithredu ar y cyd gan fentrau cymdeithasol ac asiantaethau cymorth mentrau cymdeithasol yng Nghymru. Y nod yw cynnig gweledigaeth glir ar gyfer potensial y sector i gyfrannu at fywydau a bywoliaethau cymunedau ac economi Cymru, wrth i ni adfer ac ailadeiladu yn sgil effeithiau pandemig COVID-19.

 

Cadwch mewn cyswllt gyda ein rhwydwaith cymdeithasol

Ffrwd Twitter

Cylchlythyr Cofrestrwch Up

Tanysgrifio

polisi cwcis | polisi preifatrwydd | map o'r safle

Hawlfraint 2014. Cedwir pob hawl