Amdanom ni


Cwmnïau Cymdeithasol Cymru yw'r Asiantaeth Cynnal Genedlaethol ar gyfer datblygu Cwmnïau Cymdeithasol ledled Cymru. Rydym wedi ymrwymo i greu cyfleoedd cyflogaeth i bobl ddifreintiedig drwy ddatblygu a chefnogi Cwmnïau Cymdeithasol yng Nghymru.

Ein Gwerthoedd: Cydraddoldeb trwy  Grymuso, Menter, Cyflogaeth 

Menter

Busnes sy'n cydnabod, gwerthfawrogi ac yn cynnwys cyfraniad unigryw pawb at ddatblygu lleoedd amrywiol gyda chyfleoedd; yn enwedig y rhai sy'n profi gwahaniaethu wrth geisio dod o hyd i waith, hyfforddiant neu wirfoddoli, gan gynnwys

  • Pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig
  • Pobl LHDTQ+
  • Pobl sy'n Byw gydag anabledd Dysgu, corfforol, a synhwyraidd 
  • Pobl niwroamrywiol 
  • Pobl sy'n gadael Carchar  
  • Pobl â phrofiad o ddigartrefedd
  • Pobl sy'n rheoli adferiad wedi camddefnyddio sylweddau
  • Pobl sy'n rheoli problemau iechyd meddw

Cyflogaeth

Gwaith ystyrlon, sgiliau cyflogadwyedd a thâl teg:

  • cefnogi a hyfforddi pobl i gael gwaith ystyrlon sy'n cyd-fynd â galluoedd pob gweithiwr, yn annog eu potensial ac yn talu cyflog teg.
  • Anelu at o leiaf 30% o'r gweithwyr a'r hyfforddeion yn anabl neu dan anfantais, er mwyn adlewyrchu amrywiaeth eu cymunedau a'u cymdeithas   

Grymuso

Magu hyder, a pherthyn 

  • Cymuned gweithlu amrywiol lle mae pobl yn teimlo eu bod yn cael eu cynnwys, eu gwerthfawrogi, ac yn ddefnyddiol 
  • Cymorth a hyfforddiant sy'n galluogi bob person i weithio i'w llawn botensial a gallu
  • creu amgylcheddau gwaith cynhwysol sy'n darparu gwaith, hyfforddiant, gwirfoddoli a chyfranogiad
  • Cyflogau teg sy'n helpu pobl i gyfrannu at yr economi  

 

Cadwch mewn cyswllt gyda ein rhwydwaith cymdeithasol

Ffrwd Twitter

Cylchlythyr Cofrestrwch Up

Tanysgrifio

polisi cwcis | polisi preifatrwydd | map o'r safle

Hawlfraint 2014. Cedwir pob hawl