Mae Cwmnïau Cymdeithasol Cymru yn gweithio gydag ystod eang o gleientiaid ac felly'n deall y tirlun cymdeithasol, a pha mor bwysig yw hi i gael y cymorth iawn ar yr adegau iawn.
Mae Cwmnïau Cymdeithasol Cymru yn gweithio gyda llawer o sefydliadau: o'r newydd-ddyfodiaid i awdurdodau lleol, ac wedi ennill profiad helaeth ym mhob agwedd o ddatblygu Cwmnïau Cymdeithasol.
Mae Cwmnïau Cymdeithasol Cymru yn gallu cefnogi eich sefydliad ar lawr gwlad drwy ddarparu mentora ymarferol wyneb-yn-wyneb, goruchwyliaeth strategol a chyngor masnachol.
Mae Cwmnïau Cymdeithasol Cymru yn awyddus i'ch helpu chi arbed amser drwy ddarparu detholiad o aelodau perthnasol i ddatblygiad eich busnes neu Gwmni Cymdeithasol.