Ymgynghori


Mae Cwmnïau Cymdeithasol Cymru yn deall cymhlethdodau'r tirlun cymdeithasol a pha mor bwysig yw hi i gael cymorth cywir, amserol.

Rydym yn meddu ar y wybodaeth, profiad a'r arbenigedd i gefnogi datblygiad prosiectau mawr a bach, ac yn gweithio gydag ystod eang o gleientiaid.


Os hoffech chi drafod syniadau, neu drawsnewid gwasanaeth cyhoeddus cysylltwch â ni.

Am wybodaeth bellach cysylltwch gyda San Leonard ar 07799 345 940 neu e-bostiwch [email protected]
 

A yw Eich Syniad Busnes yn Hyfyw?

Gall astudiaeth ddichonoldeb ddadansoddi ac asesu cynnig neu syniad sy'n profi ei hyfywedd ac yna'n ateb y cwestiwn hollbwysig, "A ddylem ni barhau?"
 

Cynllun Busnes

Yn y bôn, llawlyfr yw cich cynllun busnes o gyfarwyddiadau ar gyfer eich busnes. Mae'n disgrifio pwy ydych chi, pam rydych chi'n bodoli, a beth hoffech chi gyflawni a sut y byddwch yn ceisio sicrhau hynny.
 

Cynllunio i'r farchnad

Po fwyaf rydych chi'n ei wybod am eich sector - pwy sy'n gwneud beth a gyda phwy - po fwyaf bydd eich llwyddiant. Pwy bynnag rydych chi am eu cyrraedd, bydd angen cynllunio marchnad da er mwyn eu cyrraedd.
 

Cynllunio ariannol

Gan fod gan bob cwmni ei drywydd ei hun o ran cyfres o nodau, a chyfle a phresenoldeb marchnad unigryw - felly hefyd mae pob cynllun ariannol yn unigryw hefyd. Gallwn eich helpu gyda phob agwedd o eich cynllunio ariannol.
 

Pwysigrwydd Llywodraethiant

Mae'n hanfodol bod sefydliadau yn cael eu llywodraethu yn effeithiol o ran eu rheolaeth ac felly hefyd o fewn eu dogfennaeth. Er y bydd y rhan fwyaf yn deall bod llywodraethiant effeithiol yn hanfodol i unrhyw sefydliad, yn rhy aml mae’n cael ei chamddeall a gweithredu'n wael.

Caffael a'r Gadwyn Cyflenwi

P'un a ydych yn sefydliad newydd neu yn Gwmni Cymdeithasol profiadol, neu Awdurdod Lleol sy'n awyddus i wneud y gorau o botensial caffael, gall Cwmnïau Cymdeithasol Cymru ddarparu cymorth ymarferol.

Gwasanaethau Cyhoeddus y Dyfodol

Mae'r problemau ariannu a brofwyd gan y sector cyhoeddus wedi amlygu'r angen am newid ar raddfa fawr: mae cyrff cyhoeddus nawr yn cael eu hannog i wneud newidiadau sylweddol o ran sut y caiff gwasanaethau eu comisiynu a'u cyflwyno, felly yr ydym yn gweld angen am newid radical.
 

Rheoli Prosiectau

O bryd i'w gilydd, gall busnesau profi heriau tymor byr ar frig y sefydliad wrth i reolwyr allweddol symud ymaith, neu gymryd absenoldeb tymor hir neu secondiad. Eto, gall Cwmnïau Cymdeithasol Cymru ddarparu cymorth ymarferol i’ch sefydliad yn ystod adegau bregus.

 

Cadwch mewn cyswllt gyda ein rhwydwaith cymdeithasol

Ffrwd Twitter

Cylchlythyr Cofrestrwch Up

Tanysgrifio

polisi cwcis | polisi preifatrwydd | map o'r safle

Hawlfraint 2014. Cedwir pob hawl