Caffael a'r Gadwyn Cyflenwi

Yn y cyfystyr hwn, mae 'caffael' yn ymwneud â phrynu nwyddau a gwasanaethau neu gymysgedd o'r ddau gan unrhyw fusnesau, sefydliad trydydd sector ac adrannau yn y sector cyhoeddus er mwyn eu galluogi i weithredu.

Mae'r gadwyn cyflenwi yn cynnwys ystod amrywiol o fusnesau - o fasnachwyr unigol i fusnesau mwy o faint yn ogystal â chwmnïau amlwladol - sy'n gwerthu: amrywiaeth eang o nwyddau a gwasanaethau (neu gyfuniad o'r ddau) i fusnesau eraill, sefydliadau trydydd sector ac adrannau'r sector cyhoeddus er mwyn galluogi iddynt weithredu, neu yn uniongyrchol i'r cyhoedd.

Yn rhy aml wrth siarad am gaffael mae'r ffocws yn dueddol o fod yr hyn a brynir gan y sector cyhoeddus. Mae’r sector cyhoeddus yng Nghymru yn gwario tua o £ 5.4 biliwn, ond na anghofer bod y maes caffael cyffredinol yn lawer ehangach. Mae pob busnes o unig fasnachwr i gwmnïau rhyngwladol yn prynu nwyddau a gwasanaethau.

Caiff caffael y Sector Cyhoeddus ei reoleiddio yn drwm gan fod yr arian sy'n cael ei wario yn dod o gyllid cyhoeddus. Felly, mae'r holl adrannau'r llywodraeth yn atebol am eu gwariant, a rhaid iddynt sicrhau bod prynu unrhyw nwyddau a gwasanaethau wedi cael ei gynnal drwy ymgymryd proses deg a thryloyw.
Caiff caffael y Sector Preifat ei reoli'n llai, ble bo yna fwy o hyblygrwydd na chaffaeliad y Sector Cyhoeddus, ac yn bennaf atebol i berchnogion, Cyfarwyddwyr a Chyfranddalwyr y busnesau. Bydd gan y rhan fwyaf o fusnesau yn y sector preifat rhyw fath o bolisi caffael sy'n amlinellu sut y caiff nwyddau a gwasanaethau eu prynu. Yn aml, bydd y polisi hwn yn cynnwys neu'n gysylltiedig gyda pholisi cyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol.

Mae Cwmnïau Cymdeithasol Cymru yn gweithio gyda gweithwyr caffael proffesiynol Cymru i gefnogi Cwmnïau Cymdeithasol i fod yn rhan o'r cadwyni cyflenwi i dendro yn annibynnol, fel rhan o grŵp consortia.

Am wybodaeth bellach, cysylltwch gyda San Leonard ar 07799 345 940 neu e-bostiwch [email protected]

Dolenni defnyddiol ar gyfer caffaelwyr a chyflenwyr

Gwerthu i Gymru, ydych chi wedi cofrestru eto?
e-Tender Cymru
Busnes Cymru
Canllawiau Cynllunio Caffael
y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol
 


 

 

Cadwch mewn cyswllt gyda ein rhwydwaith cymdeithasol

Ffrwd Twitter

Cylchlythyr Cofrestrwch Up

Tanysgrifio

polisi cwcis | polisi preifatrwydd | map o'r safle

Hawlfraint 2014. Cedwir pob hawl