Gwasanaethau Cyhoeddus y Dyfodol

Yn feunyddiol, rydym yn byw gyda'r ddealltwriaeth bod newid yn un o rinweddau cyson bywyd. Mae'r problemau ariannu a brofwyd gan y sector cyhoeddus wedi amlygu'r angen am newid ar raddfa fawr. Bodolwn mewn hinsawdd ariannol na all gefnogi'r boblogaeth gynyddol nac anghenion aelodau'r gymuned yn y dyfodol.

Mae yna gyfle yn bodoli wrth i gyrff cyhoeddus cael eu hannog i newid sut mae gwasanaethau yn cael eu comisiynu a'u darparu, felly rydym yn gweld yr angen am newid radical wrth i ffrydiau ariannu leihau, ac wrth i'r boblogaeth cynyddu yng Nghymru.

Mae'r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles Cymru 2014 yn Ddeddf Cynulliad Cenedlaethol Cymru i ddiwygio cyfraith gwasanaethau cymdeithasol er mwyn gwella canlyniadau lles ar gyfer pobl sydd angen gofal a chymorth yn ogystal â gofalwyr sydd angen cymorth, ac i flaenoriaethu cydweithredu a phartneriaeth gan awdurdodau cyhoeddus gyda'r bwriad o wella'r darpariaethau, a thrwy hynny lles pobl Cymru.

Gan Gwmnïau Cymdeithasol Cymru ddiddordeb arbennig yn Adran 16 o'r ddeddf sy'n gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol i hyrwyddo mentrau cymdeithasol, cwmnïau cydweithredol, gwasanaethau dan arweiniad defnyddwyr a'r trydydd sector. Rhaid i awdurdod lleol hyrwyddo:

(a) datblygiadau yn ei ardal mentrau cymdeithasol sy'n darparu gofal a chymorth a gwasanaethau ataliol;

(b) datblygiadau yn ei ardal o sefydliadau neu drefniadau sy'n bodoli er mwyn darparu gofal a chymorth a gwasanaethau ataliol cydweithredol;

(c) cynnwys personau sy'n derbyn gofal, cefnogaeth neu wasanaethau ataliol yn nyluniad a gweithrediad y ddarpariaeth honno;

(d) argaeledd yn ei ardal o ofal a chymorth a gwasanaethau ataliol gan fudiadau trydydd sector (p'un ai yw'r sefydliad yn fentr gymdeithasol neu sefydliad cydweithredol neu beidio).
 
Mae gwahanol opsiynau bellach yn cael eu hystyried ar gyfer darparu gwasanaethau cyhoeddus yn y dyfodol; fodd bynnag, ni fydd pob un yn gallu cyflenwi datrysiad hir-dymor sy'n gallu ymateb yn rhwydd ac yn gyflym i newid tueddiadau mewn cymdeithas, anghenion cymunedau lleol ac na fydd yn draen barhaus ar gyllid cyhoeddus y wlad.

Mae'r opsiynau posibl yn cynnwys:

1. Cadw at y sefyllfa bresennol
2. Allanoli i fudiadau trydydd sector naill ai yn eu cyfanrwydd neu'n rhannol
3. Allanoli i'r sector preifat naill ai yn eu cyfanrwydd neu'n rhannol
4. Trawsffurfio gwasanaethau presennol i fodelau menter gymdeithasol
5. Trawsnewid gwasanaethau presennol i Fodelau Darparu Amgen [ADMs]

Sut gall Cwmnïau Cymdeithasol Cymru helpu?

Trwy gefnogi Awdurdodau Lleol i gyflawni gwasanaethau modern, effeithiol a chost effeithlon trwy ddarparu:

Asesiad o'r opsiynau sydd ar gael i Awdurdodau Lleol
Astudiaethau hyfywedd / dichonoldeb
Cynllunio busnes
Gwasanaeth allanoli / pontio llawn
Cefnogaeth barhaus

Am wybodaeth bellach, cysylltwch gyda San Leonard ar 07799 345 940 neu e-bostiwch [email protected]

 


 



 

 

Cadwch mewn cyswllt gyda ein rhwydwaith cymdeithasol

Ffrwd Twitter

Cylchlythyr Cofrestrwch Up

Tanysgrifio

polisi cwcis | polisi preifatrwydd | map o'r safle

Hawlfraint 2014. Cedwir pob hawl