Cynllunio i Fusnes

Yn y bôn, llawlyfr yw cich cynllun busnes o gyfarwyddiadau ar gyfer eich busnes. Mae'n disgrifio pwy ydych chi, pam rydych chi'n bodoli, a beth hoffech chi gyflawni a sut y byddwch yn ceisio sicrhau hynny. Fel y cyfryw, mae'n offeryn hanfodol ar gyfer sicrhau cyllid ac ariannu - yn ogystal â bodoli fel dogfen gweithiol.

Rhaid bod eich cynllun busnes yn cael ei ysgrifennu'n ofalus tu hwnt er mwyn sicrhau ei bod yn rhesymegol, yn gynhwysfawr ac yn amlinellu eich amcanion, gweithrediadau, eich cyllid ac unrhyw beryglon posib mewn modd eglur, heb adael unrhyw amheuaeth ym meddwl y darllenydd ynghylch pwy ydych chi a beth yr ydych yn ceisio ei gyflawni.
Rydym wedi bod yn cynlluniau busnes gyda'n cleientiaid am flynyddoedd lawer yng Nghwmnïau Cymdeithasol Cymru. Maent wedi derbyn adborth hynod o dda - gan arianwyr, banciau, rhanddeiliaid a chleientiaid - ac maent wedi bod yn llwyddiannus wrth sicrhau grantiau a benthyciadau strategol. Gweithiwn yn agos gyda'n cleientiaid drwy gydol y broses datblygu er mwyn sicrhau bod eu cynllun busnes yn adlewyrchiad cywir o'u nodau a'u huchelgeisiau. Rydym wedi gweithio'n galed i ddatblygu fframwaith cynllun busnes gydag amcanion cymdeithasol; sy'n cyfuno cysyniadau caled busnes gyda ffocws cymdeithasol cryf – a chredwn fod ein cynlluniau yn cadw’r cydbwysedd cywir o gael eu hymchwilio'n dda - yn bwrpasol a pherthnasol - yn ogystal â bod yn gryno, yn glir ac yn ddarllenadwy.


Am wybodaeth bellach cysylltwch San Leonard ar 07799 345 940 neu e-bostiwch [email protected]



 

 

Cadwch mewn cyswllt gyda ein rhwydwaith cymdeithasol

Ffrwd Twitter

Cylchlythyr Cofrestrwch Up

Tanysgrifio

polisi cwcis | polisi preifatrwydd | map o'r safle

Hawlfraint 2014. Cedwir pob hawl