Greenstream Flooring CIC

Sefydlwyd Greenstream Flooring CIC yn 2008 er mwyn cyflwyno opsiwn amgen rhag lluchio teils carped i safleoedd tirlenwi. Maent yn fenter gymdeithasol unigryw wedi eu lleoli yng Nghymoedd De Cymru sy’n gweithio ledled y Deyrnas Gyfunol i ddargyfeirio teils carped masnachol newydd, ac wedi’u hail-ddefnyddio, er budd y gymuned.
Mae gwasanaethau Greenstream yn cynnwys:
-
Gwasanaeth casglu cenedlaethol dim-gwastraff ar gyfer teils carped masnachol buasai fel arall yn wastraff
-
Gwasanaeth ail-ffitio swyddfa gyda deunyddiau newydd ac wedi’u hail-ddefnyddio
-
Gwasanaeth cyflenwi carpedi i gartrefi
-
Gwasanaeth cyflenwi ar y diwrnod canlynol trwy e-fasnach
-
Mae rhaglen Lloriau Fforddiadwy yn darparu carped am ddim / cost isel ar gyfer grwpiau cymunedol ac unigolion mewn angen.
-
Cyflogaeth a hyfforddiant mewn sgiliau uwchgylchu a stordai i weithlu sydd dan anfantais/anabl.
Ers cychwyn y gwasanaeth yn 2009, dargyfeiriwyd dros 350,000m2 o deils carped o safleoedd tirlenwi gan Greenstream, sy'n gyfateb i fwy na 87 o gaeau pêl-droed. Creuwyd ystod o gyfleoedd a phrofiadau gwaith, o weinyddu’r swyddfa a’r stordy i uwchgylchu a gosod y lloriau. Eu nod yw darparu cyflogaeth sicr a chynaliadwy, gan weithio'n agos gydag aelodau'r tîm i ddatblygu eu sgiliau a'u gwybodaeth broffesiynol a phersonol. Trwy eu prosiect Lloriau Cynaliadwy, maent wedi ailgylchu 300,000m2 o garped a buasai fel arall yn wastraff i grwpiau cymunedol a thenantiaid incwm isel er mwyn eu cynorthwyo i gynhesu eu tai trwy insiwleiddio eu cartrefi a sicrhau bod cael carpedi syml yn opsiwn fforddiadwy i’r sawl na fyddant yn gallu eu prynu fel arfer.
Mae gwasanaethau unigryw Greenstream ar gyfer swyddfeydd yn cynnig y cyfle i ddefnyddwyr fanteisio ar brofiad unigryw Greenstream o ymdrin â charped masnachol, ansawdd uchel ail law a newydd. Gydag aelodau eraill y consortia, maent hefyd yn cynnig pecyn ail-ffitio'r swyddfa gyfan, sy’n cynnwys pob elfen, gan gynnwys ail-ddefnyddio gymaint o ddodrefn swyddfa â sy’n bosib.
Ffôn : 0845 860 1261
www.findcarpettiles.co.uk
Porth, Rhondda Cynon Taf