Aelodau

Ministry of Furniture

Y Weinidogaeth Ddodrefn; bywyd wedi Remploy
 
Wedi ei leoli yn Ne Cymru yng Nghastell-Nedd Port Talbot , Ministry of Furniture yw’r busnes sydd bellach yn waddol i waith Remploy; sef – tan yn ddiweddar - cyflogwr mwyaf y Deyrnas Unedig o bobl ag anableddau. Maent yn falch tu hwnt o'u treftadaeth; yn wir ers gadael rheolaeth Llywodraeth y D.U. yn 2013 pobl Remploy sydd wedi mynd ati i berchenogi’r busnes yn gyfangwbl.
 
Mae'r cwmni yn arbenigwyr mewn creu a darparu amgylcheddau gweithle a dysgu cyfoes ysbrydoledig. Maent yn cynhyrchu detholiad o eitemau craidd y busnes sef amrywiaeth o Ddodrefn Addysgol, ac maent hefyd yn bartneriaid awdurdodedig i gyflenwi cytundebau gyda brandiau dodrefn o fri.

Yn fwyaf diweddar, enillodd Ministry of Furniture gytundeb i uwchgylchu ac ailgynhyrchu dodrefn i’r gweithle ar gyfer Canolfan Dinesig Dinas a Sir Abertawe. Roedd y prosiect arloesol hwn yn cynnwys amrywiaeth o ddesgiau wedi eu hailbeiriannu ac ailgweithgynhyrchu, a systemau storio i gefnogi arferion gweithio hyblyg, tra'n hefyd yn hybu agenda cynaladwyedd Abertawe. Mae'r contract hwn yn creu hanner dwsin o swyddi ychwanegol i bobl sydd wedi eu hamddifadu gan y farchnad swyddi yn Abertawe ac ardal Castell-Nedd a Phort Talbot. 

YouTube fan hyn  

Ffon: 01639 812382

www.ministryoffurniture.com

Cadwch mewn cyswllt gyda ein rhwydwaith cymdeithasol

Ffrwd Twitter

Cylchlythyr Cofrestrwch Up

Tanysgrifio

polisi cwcis | polisi preifatrwydd | map o'r safle

Hawlfraint 2014. Cedwir pob hawl