Aelodau

My Gig Guide CIC - Minty's Gig Guide

Mae gan Minty's Gig Guide CBC weledigaeth i amlygu tirwedd ddiwylliannol Cymru, ei wneud yn gwbl hygyrch, yn weladwy ac yn gynhwysol i bob unigolyn sy'n byw, yn gweithio ac yn ymweld â Gwlad y Gân.

 

Gwneud cerddoriaeth fyw yn hygyrch, yn weladwy ac yn gynhwysol i bawb drwy:

  • gynhyrchu gwybodaeth ddwyieithog a chynhwysfawr am ddigwyddiadau sy'n hawdd ei deall o safbwynt y gymuned gerddorol, sy'n arddangos cydraddoldeb ar draws cynfas bywiog a lliwgar.
  • eirioli, cynrychioli a helpu i ddiogelu gwead diwylliannol lleoliadau a mannau cerddoriaeth yng Nghymru a'i phrifddinas, tra hefyd yn parhau i esblygu er mwyn adlewyrchu'r zeitgeist
  • roi llwyfan i bobl a chynrychioli'r amrywiaeth sydd yn y gymuned; rhoi sylw i achosion a straeon; rhannu gwerthoedd ac eiliadau y mae angen eu gweld a'u clywed.
  • gweithredu fel llwyfan sy'n eiddo i'r gymuned – dan arweiniad y gymuned, wedi'i fwydo gan y gymuned sy'n ceisio ymgysylltu gyda chyfranogwyr lleol a rhanbarthol ynghyd ag ymwelwyr.
  • gweithio'n agored ochr yn ochr â sefydliadau eraill ac awdurdodau lleol i bontio bylchau cymdeithasol a diwylliannol mewn ardaloedd sydd o dan anfantais economaidd ac sydd wedi'u hymyleiddio drwy gefnogi a rhannu cyfleoedd a gwybodaeth

 

Dilynwch nhw ar Facebook neu Twitter

 

 

Cadwch mewn cyswllt gyda ein rhwydwaith cymdeithasol

Ffrwd Twitter

Cylchlythyr Cofrestrwch Up

Tanysgrifio

polisi cwcis | polisi preifatrwydd | map o'r safle

Hawlfraint 2014. Cedwir pob hawl