Aelodau

PinkGold Ltd

 

 

Sylfaenydd a pherchennog PinkGold Ltd yw Dr Anne Collis sy'n awtistig. Mae gan Anne brofiad fel entrepreneur cymdeithasol a llawrydd. Ym Mhrifysgol Bangor thema ei thraethawd doethuriaeth oedd ceisio creu dull ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus sy'n cael gwared ar rwystrau i ymgysylltu. Gwelodd fod angen i bobl ddarllen, ysgrifennu, cymdeithasu â dieithriaid neu ateb cwestiynau, a phob un o'r rheiny pob un yn creu rhwystrau i bobl a oedd am gymryd rhan mewn ymgynghoriadau gwasanaethau cyhoeddus a llunio polisïau. 

Yn PinkGold Ltd, maent yn credu yng ngrym gwybodaeth a'r angen am ffyrdd newydd grymus o ddod â phobl â gwahanol fathau o wybodaeth a ffyrdd gwahanol o wybod a gwneud synnwyr o'r byd ynghyd.

Maent yn ceisio ysgogi gwybodaeth sydd eisoes yn bodoli a'i rhoi yn nwylo'r rhai sydd ei hangen yn ogystal â cheisio cyd-greu a hwyluso cyd-greu gwybodaeth newydd. Yn bwysicaf oll, maent yn gwerthfawrogi gwybodaeth a moddau o ddeall pawb.

www.pinkgold.uk

Cadwch mewn cyswllt gyda ein rhwydwaith cymdeithasol

Ffrwd Twitter

Cylchlythyr Cofrestrwch Up

Tanysgrifio

polisi cwcis | polisi preifatrwydd | map o'r safle

Hawlfraint 2014. Cedwir pob hawl