Aelodau

toogoodtowaste

toogoodtowaste yw'r brif elusen ar gyfer ailgylchu ac ailddefnyddio yn ne Cymru; maent yn casglu eitemau cartref megis dodrefn ac offer trydanol sy'n “rhy dda i’w gwastraffu” oddi wrth drigolion lleol am ddim. Maen nhw hefyd yn casglu stoc o fanwerthwyr y stryd fawr. Caiff yr holl eitemau eu harddangos a’u gwerthu am brisiau fforddiadwy gyda chymorth eu tîm o wirfoddolwyr ymroddedig, sy’n ennill profiad gwaith gwerthfawr ac yn rhan allweddol o’r broses. 

Trwy gydweithio gyda sefydliadau eraill maen nhw hefyd yn rhoi eitemau yn rhad ac am ddim i’r bobl sydd fwyaf anghenus yn ein cymuned. Maen nhw'n falch o weithio tuag at fod yn sefydliad hunangynhaliol sy’n darparu swyddi a hyfforddiant ar gyfer pobl leol, gan helpu'r amgylchedd a'r gymuned i ffynnu. 

Ffoniwch 01443 680090 

www.toogoodtowaste.co.uk

 

 

Cadwch mewn cyswllt gyda ein rhwydwaith cymdeithasol

Ffrwd Twitter

Cylchlythyr Cofrestrwch Up

Tanysgrifio

polisi cwcis | polisi preifatrwydd | map o'r safle

Hawlfraint 2014. Cedwir pob hawl