David Wyn, Gwasanaethau Cyfieithu Llawrydd

Gan David sgiliau cyfathrebu dwyieithog rhagorol; dechreuodd gyfieithu o'r Saesneg i'r Gymraeg ar gyfer Radio Ceredigion ym 1997 ar ôl cwblhau gradd Saesneg ym Manceinion.
 

Daeth ei gyfle i weithio ar ei liwt ei hun yn 2012 wedi iddo ddenu nawdd gan Lywodraeth Cymru i hyrwyddo diwylliannau traddodiadol Cymreig gyda chwmni teledu Telesgop ar y cyd gyda MA ym Mhrifysgol Aberystwyth. Arweiniodd hyn at sefydlu ei gwmni cynhyrchu annibynnol 'Dai Lingual' sydd wedi cynhyrchu 5 rhaglen radio ar gyfer BBC Radio Cymru.

Ar ôl ailsefydlu papur newydd a gwefan "Y Cymro" fel golygydd, fe'i gwahoddwyd gan sylfaenydd Huffington Post, Arianna Huffington, i ysgrifennu am lesiant ar ei llwyfan 'Thrive Global' newydd.

Ers hynny, mae wedi mwynhau gweithio gyda thîm Bectu yng Nghymru i gyfieithu a hyrwyddo eu hyfforddiant a'u digwyddiadau ar y cyfryngau cymdeithasol, ac i hwyluso'r gwaith o werthuso a chynllunio eu gwaith drwy baratoi holiaduron.

Mae David wedi bod yn awyddus i helpu pobl sydd wedi colli gwaith a chyfleoedd yn ystod cyfnod cloi y coronafeirws felly mae gweithio gyda Chwmnïau Cymdeithasol Cymru i greu eu copi Cymraeg yn rhan bwysig iawn o'i wythnos.

Mae David wedi cefnogi'r sector creadigol ers dechrau'r cyfnod cloi – yn enwedig grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol – drwy ymgyrchu gyda Beth Nesaf Cymru yn wirfoddol, sydd wedi cynnwys sefydlu a hyrwyddo eu presenoldeb ar facebook.



 

 

Cadwch mewn cyswllt gyda ein rhwydwaith cymdeithasol

Ffrwd Twitter

Cylchlythyr Cofrestrwch Up

Tanysgrifio

polisi cwcis | polisi preifatrwydd | map o'r safle

Hawlfraint 2014. Cedwir pob hawl