Arweinydd profedig, addasadwy ac arloesol yn y sector cyllid sy’n angerddol am wasanaeth, gan Keith Simmonds dros 26 mlynedd o brofiad gyda Barclays Bank PLC a gwybodaeth eang o farchnadoedd busnesau bach a chorfforaethol. Mae Keith hefyd yn hyderus ac yn fedrus wrth gynyddu busnes a datblygu timau.
Ganddo hefyd brofiad helaeth yn y sector mentrau cymdeithasol i ychwanegu at ei 26 mlynedd yn y sector preifat. Mae hyn yn sicrhau bod cynaliadwyedd bob amser yn agos at frig ei agenda wrth drafod mentrau cymdeithasol. Mae Keith Simmonds A.C.I.B. yn Aelod Cyswllt o Sefydliad y Bancwyr a bu'n gweithio i Fanc Barclays am dros 26 mlynedd, yn fwyaf diweddar fel Cyfarwyddwr Corfforaethol Ardal De Orllewin Llundain ble bu yn gyfrifol am arwain tîm o 50 o bobl.
Yn ei rolau arweinyddiaeth Keith oedd yn gyfrifol am osod nodau strategol busnes a chyflwyno twf dau ddigid yn flynyddol.
Ers ymuno gyda Chwmnïau Cymdeithasol Cymru, mae Keith wedi helpu i sefydlu rhwydweithiau ar draws Gogledd Cymru i gefnogi'r gwaith o ddatblygu a ffurfio cwmnïau a mentrau cymdeithasol.
Mae ei waith hefyd yn canolbwyntio ar ffurfio Partneriaethau Newid Cymdeithasol sy'n dod â gweithwyr proffesiynol traws-sector o ystod eang i weithio ar y cyd a chyflawni newid cymdeithasol effeithiol. Cymra Keith agwedd ymarferol i'w waith, gan greu cynlluniau busnes, mynychu cyfarfodydd bwrdd mewn rôl ymgynghorol a gweithgareddau eraill sy'n sicr o ychwanegu gwerth.