San Leonard, Prif Weithredwr

Person busnes hynod broffesiynol sy'n Brif Weithredwr ar Gwmnïau Cymdeithasol Cymru sef San Leonard; entrepreneur sy'n angerddol am weithio yng nghanol adfywio cymunedol yng Nghymru er mwyn datblygu cyfleoedd sy'n sicrhau newid cymdeithasol cynaliadwy.
 
Wedi mwy na 30 mlynedd mewn rheoli a datblygu busnes o fewn y sector preifat, mae'n defnyddio'r profiad hwnnw wrth weithio i gefnogi twf busnesau cymdeithasol sy'n fasnachol hyfyw ac sydd yn cynnig cyflogaeth a dyrchafiad gyrfa mewn amgylchedd busnes cefnogol o allu cymysg.

Gyda chryn wybodaeth uniongyrchol o weithio gyda phobl ag anableddau, mae San mewn sefyllfa ddelfrydol i ddeall yn llawn yr angen i ddatblygu hyfforddiant a chyfleoedd gwaith i bobl sydd yn aml yn gweld cyfleoedd y farchnad lafur yn anodd iawn i’w cyrraedd. Mae'r profiadau a sgiliau gwerthfawr yma'n cael eu defnyddio i'w heithaf o ran helpu a chynghori sefydliadau sy'n gweithio'n uniongyrchol gyda rhai o'r grwpiau sydd wedi'u hallgáu fwyaf yng nghymdeithas heddiw.
Mae ei llwyddiannau wedi deillio o ddealltwriaeth dda o bob sector yn y gymuned a'r gallu i adnabod cyfleoedd pellach o fewn y weledigaeth ehangach. Cydnabyddir gan ei chyfoedion fel meddyliwr strategol clir; dangosir yn glir gan San y gallu i feithrin cydberthnasau cefnogol traws-sector tymor hir.

Arbenigaeth San yw helpu Awdurdodau Lleol i symud gweithrediadau masnachu a gwasanaethau dydd y tu allan i berchnogaeth yr awdurdod i Gwmnïau Cymdeithasol annibynnol allanol. Tra'n efengylu am fanteision gweithio mewn partneriaeth ar draws y sectorau, mae San hefyd yn cydnabod y manteision gwirioneddol y gellir eu hennill wrth weithio gydag ymarferwyr proffesiynol eraill i sicrhau newid cymdeithasol cynaliadwy. Mae hi bob amser yn ymwybodol, fodd bynnag, nad yw'r dull hwn yn opsiwn "ateb cyflym" ond yn ateb tymor hir i fynd i'r afael â newid agweddau yn y gymdeithas.


 

 

Cadwch mewn cyswllt gyda ein rhwydwaith cymdeithasol

Ffrwd Twitter

Cylchlythyr Cofrestrwch Up

Tanysgrifio

polisi cwcis | polisi preifatrwydd | map o'r safle

Hawlfraint 2014. Cedwir pob hawl