Mae amser enwebu Gwobrau Busnes Cymdeithasol Cymru 2024 wedi cychwyn
Mae Gwobrau Busnes Cymdeithasol Cymru yn tynnu sylw at dwf a photensial y sector menter gymdeithasol yng Nghymru. Nid dim ond seremoni wobrwyo arall yw hon – mae’n deyrnged i’r ymdrechion diflino a fydd yn llunio ein dyfodol.
Gyda 6 chategori o wobrau, mae Gwobrau Busnes Cymdeithasol Cymru eleni yn datgelu straeon eithriadol mentrau ac entrepreneuriaid cymdeithasol sydd nid yn unig wedi goroesi’r storm ond sydd wedi dod i’r amlwg fel ffaglau newid yn y 12 mis diwethaf. Mae’n bryd cymeradwyo’r rhai a feiddiai wneud gwahaniaeth, gan drawsnewid bywydau a chymunedau.
Rydym yn annog ein haelodau i ymgeisio am wobr.
Enwebiadau'n cau 7 Gorffennaf
|