Cronfa Gymunedol Fferm Wynt Pen y Cymoedd
Lansiad y Gronfa Grantiau Bychain - Ddydd Llun 5 Rhagfyr 2016
Ar ôl llawer o gynllunio mae’r Gronfa Gymunedol a sefydlwyd gan gwmni ynni Vattenfall yn weithredol. Gwerth y Gronfa yw £1.8 miliwn y flwyddyn er budd cymunedau lleol ym mlaenau cymoedd Afan, Cynon, Nedd a Rhondda. Sefydlwyd Cwmni Buddiant Cymunedol newydd, annibynnol sy'n atebol yn lleol i reoli'r Gronfa ac mae dau aelod o staff wedi cael eu penodi i oruchwylio ac arwain y Gronfa o ddydd i ddydd.
Nid Cronfa gyffredin mo hon, gad taw’r trigolion a'r cymunedau lleol eu hunain sydd wedi diffinio'r blaenoriaethau ariannu. Mae'r Gronfa yn eiddo i'r bobl a fydd yn elwa ohoni.
Ddydd Llun 5 Rhagfyr, byddwn ar daith er mwyn lansio rownd gyntaf y Gronfa Grantiau Bychain. Bydd hon yn cynnig grantiau untro o hyd at £5,000 i gefnogi agweddau pwysig ar fywyd cymunedol megis prynu eitemau bach o offer, cynnal gweithgareddau a digwyddiadau, rhedeg prosiectau, cefnogi busnesau newydd a darparu hyfforddiant.
Fe fyddant yn trafod sut y bydd y Cwmni Buddiannau Cymunedol newydd yn gweithio; yn sôn am y Gronfa yn gyffredinol a'r broses o wneud cais i'r Gronfa Grantiau Bychain yn benodol - gan ateb cwestiynau a chwrdd â chynifer o bobl a bo modd.
Maent yn gobeithio y byddwch chi’n gallu ymuno gyda nhw yn un o’r lleoliadau isod, a byddem yn ddiolchgar pe gallech gadarnhau erbyn dydd Llun 28 Tachwedd pa un sydd orau i chi. Bydd nifer cyfyngedig o leoedd, felly byddai'n wych pe gallech roi gwybod i ni cyn gynted a bo modd.
Os nad ydych yn gallu dod ar y 5ed, peidiwch â phoeni! Fe fyddant yn cynnal sesiynau rheolaidd yn ystod mis Rhagfyr ac Ionawr – mae’r dyddiadau a’r lleoliadau yn eu dyddiadur yn barod, a byddant yn cael eu datgan yn fuan er mwyn i chi alw draw.
Marc Phillips
Cadeirydd, Cwmni Buddiant Cymunedol Cronfa Gymunedol Fferm Wynt Pen y Cymoedd
Opsiwn 1
|
Cynon
|
Neuadd Gymunedol Trecynon,
Mill St, Aberdâr CF44 8PA
|
10.00 hyd 11.30am
|
Opsiwn 2
|
Rhondda
|
Valleys Kids, Penyrenglyn,
53/56 Stryd Corbett, Ystad Libanus Mount, Treherbert, CF42 5ET
|
12.45 hyd 14.30pm
|
Opsiwn 3
|
Afan
|
Neuadd y Glowyr Gwynfi,
Jersey Rd, Blaengwynfi, SA13 3TE
|
15.45 hyd 17.15pm
|
Opsiwn 4
|
Nedd
|
Canolfan Hyfforddiant Glyn-nedd,
Stryd Oldfellows, Castell-nedd, SA11 5DB
|
18.45 hyd 20.15pm
|
Anfonwch e-bost i [email protected] erbyn dydd Llun 28 Tachwedd i gadarnhau pa ddewis sydd orau gennych - ffoniwch 01685 878785