Gweledigaeth Menter Gymdeithasol


Maniffesto ar gyfer y Sector Menter Gymdeithasol yng Nghymru 
 

Mae’r weledigaeth a’r cynllun gweithredu wedi’u cynhyrchu ar y cyd gan fentrau cymdeithasol ac asiantaethau cymorth menter gymdeithasol yng Nghymru ac mae ganddi gefnogaeth Llywodraeth Cymru. Mae’n ganlyniad ymarferiad ymglymu cynhwysfawr a oedd yn cynnwys gwaith arolwg, sesiynau ymgynghori ledled Cymru a gweithdai yng nghynhadledd genedlaethol Busnes Cymdeithasol Cymru.

Y nod yw darparu gweledigaeth glir o botensial mentrau cymdeithasol i gyfrannu at fywydau a bywoliaethau pobl yng Nghymru wrth iddynt ailadeiladu o effeithiau’r pandemig COVID-19, yn ogystal â mynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd. Mae cynllun gweithredu blaengar yn cyd-fynd â’r weledigaeth hon a fydd, yn y tymor byr, yn cynorthwyo’r sector i ymadfer, ond bydd hefyd yn dwyn y sector yn ei flaen ac yn sicrhau ei fod yn cyflawni ei botensial llawn.

 

Cadwch mewn cyswllt gyda ein rhwydwaith cymdeithasol

Ffrwd Twitter

Cylchlythyr Cofrestrwch Up

Tanysgrifio

polisi cwcis | polisi preifatrwydd | map o'r safle

Hawlfraint 2014. Cedwir pob hawl