Pam prynu o Gwmni Cymdeithasol?
Oherwydd eich bod yn prynu gan gyflogwr moesegol, amgylcheddol a chefnogol. Cliciwch ar gategori gyferbyn i bori'r holl gwmnïau sy'n cydymffurfio â gwerthoedd craidd Cwmnïau Cymdeithasol.
Mae mentrau cymdeithasol yn fusnesau sy'n masnachu gyda phwrpas cymdeithasol. Mae mentrau cymdeithasol yn fusnesau sy'n masnachu gyda phwrpas cymdeithasol. Maent yn defnyddio offer a thechnegau i gyflawni nodau cymdeithasol ac maent yn cynnwys ystod anhygoel o eang o sefydliadau; er enghraifft, cwmnïau cydweithredol, ymddiriedolaethau datblygu, mentrau cymunedol, cymdeithasau tai,
Cwmnïau Cymdeithasol, ac ymddiriedolaethau hamdden. Yn bwysicaf oll, gan fod grwpiau gwirfoddol a chymunedol yn gweld hi'n anoddach ddod o hyd i ffynonellau eraill o gyllid, maent yn fwy tebyg i edrych draw at weithgarwch Mentrau Cymdeithasol er mwyn ceisio ariannu'r gwasanaethau a chynigir ganddynt.
Mae mentrau cymdeithasol yn cael eu sefydlu a rhedeg fel busnesau, ond mae'n rhaid i'r holl elw gael ei ail-fuddsoddi i ddibenion cymdeithasol. Mae yna ffurf gyfreithiol newydd wedi ei chreu er mwyn llywodraethu ar eu cyfer; 'Cwmni Budd Cymunedol', ac mae yna rheoleiddiwr hefyd. Rhaid i gwmnïau o fudd cymunedol brofi i'r rheoleiddiwr eu bod wedi cael eu sefydlu er lles y gymuned yn hytrach na mantais breifat, ac mae'n rhaid i'r elw ei ail-fuddsoddi.