Amdani

Mae Amdani yn helpu cymunedau i greu cyfleoedd i sicrhau newid effeithiol a chynaliadwy i'w bywydau a'u hamgylchedd. Dan arweiniad y gymuned, maent wedi ymrwymo i weithio gyda phobl leol i greu trawsnewidiad hirhoedlog, gan ganiatáu i bobl rheoli tynged eu cymuned er mwyn datblygu lleoedd ysbrydoledig.
Mae eu dull o creu lleoedd yn gydweithredol; gan ddylunio a rheoli mannau cyhoeddus sy'n blaenoriaethu anghenion a dymuniadau'r gymuned. Mae'n trawsnewid ardaloedd cyffredin i llefydd bywiog sy'n meithrin rhyngweithio cymdeithasol, lles, ac ymdeimlad o berthyn. Maent yn unigryw gan taw nhw yw'r unig elusen sy'n gweithio'n uniongyrchol gyda gwneuthurwyr lleoedd eraill er mwyn datblygu amgylcheddau byw ar y cyd â'r gymuned. Wrth nodi diffygion mewn mannau cymunedol, maent yn ymateb drwy greu cyfleoedd i aelodau'r gymuned perchnogi'r ardaloedd, ysgogi newid a chodi hyder y gymuned.
Ffôn: 01656 670812
hwww.amdani.org.uk
Cornelly, Bridgend