Am ein Calendr Adfent
Mae ein calendr Adfent yn dathlu rhai o’r bobl a’r sefydliadau yn y gymuned mentrau cymdeithasol a chwmnïau cymdeithasol. Bob dydd, rydym yn rhannu grŵp neu unigolyn newydd — gan arddangos eu gwaith, eu syniadau a’u cyflawniadau. Mae hefyd yn ffordd o ddiolch i’n rhanddeiliaid ac i dynnu sylw at y sector mentrau cymdeithasol ehangach, ynghyd â’r partneriaid a’r cefnogwyr sy’n sefyll wrth ein hochr. Nid cyfrif i lawr at y Nadolig yn unig yw’r calendr hwn. Mae’n arddangos cydweithio, effaith, a’r newid cadarnhaol a grëwn gyda’n gilydd.
I weld fideos dyddiau blaenorol, cliciwch ar ddewislen y rhestr chwarae isod. 