Courtesy VA Services
Mae Gwasanaethau Cynorthwyydd Rhithwir Courtesy yn cael eu rheoli gan Elizabeth Curtis. O dan yr enw VA, mae hi'n cynnig ystod o gefnogaeth weinyddol o reoli e-byst i sesiynau atebolrwydd, oll wedi’u cynllunio i helpu i gadw'r cleient ar y trywydd iawn.
Mae cymorth ar gael i bobl anabl yn y Deyrnas Gyfunol sy'n dymuno gweithio neu aros mewn gwaith. Gan fod Elizabeth yn berson anabl, mae'n gwybod pa mor anodd y gall fod i ddod o hyd i waith hygyrch. Fel gweithiwr cymorth, mae'n gweithio gyda chleientiaid i wneud eu rôl mor hygyrch a hylaw â phosibl. Mae'n cynnig cynllunio cymorth a threfnu'r llwyth gwaith i helpu sicrhau nad yw eu cleientiaid yn gorlwytho eu hunain.
courtesyvaservices.com