Jan Barwell, Ymgynghorydd Datblygu Menter

Gan Jan flynyddoedd lawer o brofiad yn cefnogi busnesau bach a mawr a nid-er-elw. Mae Jan wrth ei bodd yn gweithio gyda busnesau cymdeithasol i'w helpu cychwyn, datblygu a bod yn hunangynhaliol; gan gredu'n angerddol bod hyn yn gwella tegwch, cyflogaeth a grymuso unigolion o amryw o gefndiroedd.
 

Cyn hynny, bu Jan yn gweithio mewn Cyllid Masnachol i NatWest, Bank of Scotland a Cyllid Cymru, fel Cynghorydd Busnes i Ganolfan Cydweithredol Cymru, Busnes Cymru a Chyflymu Cymru i Fusnesau, a hefyd fel Swyddog Datblygu ar gyfer Cymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Gâr.

Mae Jan wedi sefydlu a thyfu ei busnes Cyllid Masnachol a Blogio ei hun, a ganddi gymhwyster Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheolaeth mewn Menter Gymdeithasol.

Ganddi brofiad o weithio gydag unigolion sy'n byw gyda heriau, gan gynnwys iechyd meddwl ac anawsterau dysgu, felly mae'n gweithio mewn modd calonogol a chadarnhaol ar gyflymder ac arddull sy'n addas i bob cleient.

O fewn tîm Cwmnïau Cymdeithasol Cymru, mae Jan yn arbenigo mewn Cynllunio Busnes, datblygu Rhagolwg Llif Arian, Marchnata, Strategaeth Weithredol, a Chyllid.

 

 

Cadwch mewn cyswllt gyda ein rhwydwaith cymdeithasol

Ffrwd Twitter

Cylchlythyr Cofrestrwch Up

Tanysgrifio

polisi cwcis | polisi preifatrwydd | map o'r safle

Hawlfraint 2014. Cedwir pob hawl