Rosie Cribb, Prif Swyddog Gweithredol

Mae Rosie wedi ymuno â ni yn ddiweddar fel Prif Swyddog Gweithredol newydd Cwmnïau Cymdeithasol Cymru. Mae hi wedi gweithio yn y trydydd sector yng Nghymru ers 2002. Ganddi gyfoeth o brofiad proffesiynol wedi iddi sefydlu a rheoli mentrau cymdeithasol ym Mlaenau Gwent a Chaerdydd cyn datblygu ei hymgynghoriaeth codi arian a chymorth elusennol ei hun 'Funding Assist' yn 2011.
 
Fel rhan o’r gwaith, sefydlodd adran hyfforddi ‘Funding School’ i annog a chefnogi elusennau bach a sefydliadau cymunedol i ddatblygu hyder a sgiliau codi arian. Trwy weithio gydag ystod eang o elusennau a mentrau cymdeithasol ledled y wlad, mae hi wedi helpu i sicrhau cyllid o tua £17 miliwn o ystod o ffynonellau gan gynnwys ymddiriedolaethau, sefydliadau a chyllid cyhoeddus.
Dywedodd: “Rwy'n edrych ymlaen at ddod i nabod aelodau Cwmnïau Cymdeithasol Cymru ledled Cymru, a gweithio i ddatblygu a chefnogi'r sector gyda'n cydweithwyr a'n partneriaid. Os ydych chi'n sefydliad, yn unigolyn neu'n fusnes sydd â diddordeb mewn rhwydweithio neu gydweithio, cysylltwch â ni”

Gellir cysylltu â Rosie ar e-bost [email protected] a thrwy LinkedIn: https://www.linkedin.com/in/rosiecribb/.


 

 

Cadwch mewn cyswllt gyda ein rhwydwaith cymdeithasol

Ffrwd Twitter

Cylchlythyr Cofrestrwch Up

Tanysgrifio

polisi cwcis | polisi preifatrwydd | map o'r safle

Hawlfraint 2014. Cedwir pob hawl