Newsletter - 12/08/2021

Thursday, 12 August 2021
Newsletter - 12/08/2021
Lloriau Greenstream Flooring yn cryfhau'r bwrdd trwy benodi pedwar Cyfarwyddwr Anweithredol
Wrth i Gwmni Buddiannau Cymunedol Greenstream Flooring symud i gyfnod o dwf newydd, mae pedwar Cyfarwyddwr Anweithredol newydd wedi'u penodi i'w bwrdd...darllenwch mwy yma.
Greenstream Flooring strengthens board with the appointment of four Non-Executive Directors
As Greenstream Flooring CIC move into a new phase of growth, four new Non-Executive Directors have been appointed to the Board of Directors............read more here.
 
Adnoddau newydd i gefnogi busnesau bwyd sy'n paratoi ar gyfer y newidiadau sydd ar y gweill i labelu alergenau
Ar 1 Hydref 2021, bydd y gyfraith ar labelu alergenau ar gyfer bwydydd wedi'u pacio ymlaen llaw i'w gwerthu'n uniongyrchol yn newid. Mae hyn yn golygu y bydd yn rhaid i unrhyw fusnes bwyd sy'n gwerthu bwydydd o'r fath restru'r cynhwysion yn llawn ar label y cynnyrch gyda chynhwysion alergenig yn cael eu pwysleisio yn y rhestr honno. Mae'r Asiantaeth Safonau Bwyd wedi datblygu canllawiau sy'n benodol i'r sector, cliciwch fan hyn am fanylion.
New resources to support food businesses preparing for upcoming changes to allergen labelling
On 1 October 2021, the law on allergen labelling for pre-packed for direct sale (PPDS) foods will change. This means that any food business selling PPDS foods will have to include full ingredients on the product label with allergenic ingredients emphasised within that list.  The Food Standards Agency have developed sector specific guidance, click here for details  
 
Pecyn hyfforddi seiberddiogelwch ar gyfer elusennau a busnesau bach
Pecyn e-ddysgu am ddim a fydd yn rhoi hwb i'w gallu i amddiffyn rhag bygythiadau a achosir gan seiberdroseddwyr.  
Mae'r hyfforddiant yn arwain busnesau drwy'r camau y dylent eu cymryd er mwyn lleihau yn sylweddol y risg o'r ymosodiadau seiber mwyaf cyffredin megis meddalwedd wystlo a gwe-rwydo.   
Cyber security training package for charities and small businesses
Free e-learning package that will boost their ability to defend against threats posed by cyber criminals.  
The training guides businesses through the actions they should take in order to dramatically reduce the risk of the most common cyber attacks, such as ransomware and phishing.  
 
Mae Acas wedi lansio canolfan gyngor newydd i helpu pobl anabl i ddeall eu hawliau yn y gwaith.
Acas has launched a new advice hub to help disabled people understand their rights at work
 
 
Mae Llywodraeth Cymru wedi lansio pecyn cymorth i annog aelodau staff eich sefydliad i gael y brechlyn.
Welsh Government has launched a toolkit to encourage members of staff in your organisation to get the vaccine.
 
Sefydliad Shackleton
£10,000 o gyllid cychwynnol a chymorth i alluogi darpar arweinwyr ac entrepreneuriaid cymdeithasol i sefydlu eu mentrau eu hunain er mwyn helpu pobl ifanc mewn amgylchiadau heriol. Mae ond yn agored i fentrau cyfnod cynnar sy'n llai na blwydd oed ac mae'n rhaid i fuddiolwyr y gwaith fod yn bobl ifanc sydd wedi'u lleoli'n bennaf yn y Deyrnas Gyfunol.
Dyddiad cau 18fed Hydref
The Shackleton Foundation
£10,000 of seed funding and support to enable aspiring leaders and social entrepreneurs to establish their own ventures to help young people in challenging circumstances. It's only open to early-stage ventures less than a year old and beneficiaries of the work must be young people predominantly based in the UK. Deadline 18th October.
 
Elusen sy'n cefnogi pobl o gefndiroedd Pobl Dduon a Lleiafrifoedd Ethnig sy'n cael eu heffeithio gan gam-drin domestig a mathau eraill o gam-drin yw BAWSO. Ar hyn o bryd maent yn recriwtio a ganddynt 9 swydd wag yn ardal De Cymru.  Darganfyddwch fwy am BAWSO yma ac e-bostiwch [email protected] i gael rhagor o wybodaeth am swyddi gwag.
BAWSO are a charity who support people from Black and Ethnic Minority backgrounds who are affected by domestic abuse and other forms of abuse. They are currently recruiting and have 9 vacancies in the South Wales area.  Find out more about BAWSO here and email [email protected] for more information on vacancies.

 

Stay connected with our social network

Twitter Feed

Newsletter Sign Up

Subscribe

cookies policy | privacy policy | sitemap

Copyright 2014. All Rights Reserved