Sut i Wneud Busnes Bach yn Llwyddiannus
Bob wythnos bydd Cwmnïau Cymdeithasol Cymru yn darparu cyngor busnes i helpu'ch busnes i dyfu.
Awgrym yr wythnos hon:
Cyfyngu ar wrthdyniadau
Gall fod gymaint o bethau dwyn ein sylw yn ddyddiol, o negeseuon a rhybuddion cyfryngau cymdeithasol i ymyriadau ac amodau swnllyd yn gyffredinol. Efallai na fyddwch hyd yn oed yn ymwybodol ohonynt i gyd. Yn hytrach na gadael iddynt dorri ar draws eich llif gwaith yn gyson, dewch o hyd i ffyrdd o'u dileu neu o leiaf leihau'r effaith a gânt ar eich cynhyrchiant. e.e.:
-
Caewch hysbysiadau ar eich ffôn am y cyfnodau pan fydd angen i chi weithio.
-
Pe bai sŵn yn broblem, ceisiwch glustffonau sy'n canslo sŵn neu osod stribed tywydd gwrth-sain i'w rwystro.
Er ei bod yn amhosibl dileu pob gwrthdyniad, mae angen cael gwared ar y rhai y gallwch chi er mwyn gwella'ch ffocws.
|