Sut gallwn ni sicrhau dyfodol Cwmnïau Cymdeithasol yng Nghymru?
Digwyddiad rhwydweithio a gwybodaeth yn rhad ac am ddim i Aelodau Cwmnïau Cymdeithasol (a phobl â diddordeb), d.Mercher 5ed Gorffennaf @ 10-11.30am (Zoom)
Mae eich angen chi!
Yma yng Nghwmni Cymdeithasol Cymru rydym yn edrych ar ddyfodol cwmnïau cymdeithasol yng Nghymru a sut y gallwn lunio ein cefnogaeth fel sydd orau i chi yn y blynyddoedd sydd i ddod. Byddem wrth ein bodd pe baech yn dod draw i rannu eich meddyliau, eich anghenion a'ch syniadau fel bod unrhyw un yng Nghymru sydd ag anabledd neu anfantais arall yn cael cyfle cyfartal i gael gwaith cyflogedig.
Rydym am sicrhau bod Cwmnïau Cymdeithasol Cymru yn ‘Ateb y Gofyn’ ac yn diwallu anghenion y rhai yr ydym yn bodoli i'w gwasanaethu. Rydym hefyd am ei wneud yn ddigwyddiad diddorol ac addysgiadol ac felly byddwn yn arddangos gwaith a dulliau dau Gwmni Cymdeithasol Cymru (enwau i'w cadarnhau).
Bydd cyfle hefyd i rwydweithio â chwmnïau cymdeithasol eraill o bob cwr o Gymru, felly gwnewch yn siŵr nad ydych yn colli’r cyfle!
I archebu eich tocyn digwyddiad am ddim, dilynwch y ddolen a pheidiwch ag anghofio dweud wrthym am unrhyw anghenion mynediad sydd gennych.
Rydym yn edrych ymlaen at eich gweld ar y diwrnod.
|