Gwasanaeth pwrpasol AM DDIM i gyflogwyr: Hyrwyddwyr Cyflogaeth Pobl Anabl
Mae Llywodraeth Cymru wedi penodi rhwydwaith o Hyrwyddwyr Cyflogaeth Pobl Anabl, gyda chefnogaeth Cynghorwyr Cyflogaeth Pobl Anabl Busnes Cymru, i roi cyngor, gwybodaeth a chymorth i gyflogwyr ledled Cymru. Gwasanaeth unigryw am ddim yw hwn i bob cyflogwr yng Nghymru, waeth beth fo faint y busnes. Gall yr Hyrwyddwyr gysylltu â chi mewnffordd sy'n addas i chi a'ch busnes ar sail un-i-un neu mewn cyfarfodydd staff.
P'un a ydych chi am gyflwyno talent newydd i'ch tîm, cadw staff presennol sydd wedi mynd yn anabl, neu am sicrhau bod eich gweithle a'ch polisïau Adnoddau Dynol yn gynhwysol, gall yr Hyrwyddwyr helpu. Gallan nhw roi cyngor ar hyn a'r canlynol:
-
Recriwtio cynhwysol;
-
Cymorth ariannol;
-
Cyngor ymarferol ar gadw staff
Cliciwch yma am wybodaeth lawn |