Ni fydd gweithwyr o allu gwahanol yn gweithio ar wahan yng Nghwmnïau Cymdeithasol - bydd tua 25-50% o'r gweithlu efo anabledd neu anfantais cydnabyddedig, a fe fydd yn amgylchedd o allu cymysg, sy'n adlewyrchu'r gymdeithas rydym yn byw ynddi.. Maent hefyd yn fusnesau masnachol go iawn, sy'n anelu i gynhyrchu o leiaf 50% o'u hincwm drwy fasnachu, gyda chyn lleied o ddibyniaeth ag sy'n bosibl ar grantiau o'r llywodraeth neu gymhorthdaliadau.
Dylai Cwmni Cymdeithasol anelu at rymuso unigolion fel eu bod yn gallu gweithio i'r safonau gorau posib er mwyn hawlio cyflog cyfartal, hawliau cyfartal ac i gamu ymlaen gyda'u datblygiad proffessiynnol, beth bynnag yw eu cefndir.
Os ydych yn ceisio datblygu Cwmni Cymdeithasol a hoffech gefnogaeth, cyngor ac arweiniad,
cysylltwch â ni.
Pe baech am fanteisio a'n cefnogi i helpu i dyfu nifer y Cwmnïau Cymdeithasol yng Nghymru a'r Deyrnas Unedig yn weithredol, cymerwch olwg ar sut y gallwch ymuno.
