Thursday, 13 January 2022
|
Llongyfarchiadau i Weithdy Beiciau Caerdydd a enillodd Busnes Trydydd Sector y Flwyddyn yng Ngwobrau Busnes Caerdydd. |
|
Congratulations to Cardiff Cycle Workshop who won Third Sector Business of the Year at the Cardiff Business Awards |
|
Croeso i aelodau newydd
Pobl yn Gyntaf Cymru Gyfan sy'n llais unedig i grwpiau hunan-eiriolaeth a phobl ag anableddau dysgu yng Nghymru.
a
Buddug Y Byd sy'n helpu pobl greadigol i ddod o hyd i swyddi creadigol a Divergent-Emergent sy'n gydweithwyr niwroamrywiol ag uchelgeisiau mawr i arloesi'r broses recriwtio draddodiadol sy'n cyfrannu at y gyfradd ddiweithdra o 80% ar gyfer oedolion Awtistig yn y Deyrnas Gyfunol. |
Welcome to new members
All Wales People First who are the united voice of self-advocacy groups and people with learning disabilities in Wales.
and
Buddug Y Byd who help creative people find creative jobs and Divergent-Emergent who are a neurodivergent collective with big ambitions to innovate the traditional recruitment process that is contributing to the 80% unemployment rate for Autistic adults in the U.K. |
|
|
Cymorth Busnes Cronfa Cadernid Economaidd COVID-19 – Rhagfyr 2021 Chwefror 2022
Mae'r Gronfa Cadernid Economaidd (CCE) wedi'i thargedu at fusnesau yn y sectorau lletygarwch, hamdden ac atyniadau a'u cadwyni cyflenwi sydd wedi cael eu heffeithio gan ostyngiad o fwy na 60% yn eu trosiant rhwng 13 Rhagfyr 2021 a 14 Chwefror 2022. Gwiriwr Cymhwysedd
Yn ogystal, bydd gan fusnesau manwerthu, lletygarwch, hamdden a thwristiaeth sy'n talu Ardrethi Annomestig hawl i daliad o £2,000, £4,000 neu £6,000 yn dibynnu ar eu gwerth ardrethol.
Mae Llywodraeth Cymru wedi penderfynu ymestyn y cymorth hwn i fanwerthu nad yw'n hanfodol fel y bydd siopau llai yn cael eu cefnogi hefyd. Bydd angen i fusnesau ailgofrestru eu manylion, drwy broses ar-lein cyflym a hawdd, gyda'u hawdurdod lleol er mwyn derbyn eu taliadau a fydd ar agor drwy wefannau awdurdodau lleol o'r wythnos sy'n dechrau ar 10 Ionawr. |
|
COVID-19 ERF Business Support – December 2021 February 2022
The Economic Resilience Fund (ERF) is targeted at businesses in the hospitality, leisure and attraction sectors and their supply chains who have been material impacted by a greater than 60% reduction of turnover between 13 December 2021 and 14 February 2022. Eligibility Checker
In addition, retail, hospitality, leisure and tourism business who pay Non Domestic Rates will be entitled to a payment of £2,000, £4,000 or £6,000 depending on their rateable value.
The Welsh Government has decided to extend this support to non-essential retail so that smaller shops will be supported too. Businesses will need to re-register their details, through a quick and easy online process, with their local authority in order to receive their payments which will be open via local authority websites from the week commencing 10 January. |
|
|
Cynllun cymorth tanwydd gaeaf
Mae £38 miliwn wedi'i ddarparu drwy Gynllun Cymorth Tanwydd Gaeaf. Mae'r cynllun yn agored i aelwydydd lle mae un aelod yn derbyn budd-dal lles penodol. Bydd awdurdodau lleol yn ysgrifennu at aelwydydd cymwys y maent yn ymwybodol ohonynt, gan eu gwahodd i wneud hawliad i'r cynllun. Gall unigolion hefyd ddewis cyflwyno hawliad drwy wefan eu cyngor lleol |
|
Winter fuel support scheme
£38 million has been made available through a winter fuel support scheme. The scheme is open to households where one member is in receipt of certain welfare benefit. Local authorities will be writing to eligible households they are aware of, inviting them to make a claim to the scheme. Individuals may also choose to submit a claim via their local council’s website |
|
|
Sefydliad Matthew Good
Bob tri mis mae £10,000 yn cael ei rannu rhwng 5 prosiect ar eu rhestr fer sy'n cael effaith gadarnhaol ar gymunedau, pobl neu'r amgylchedd. Rhaid i geisiadau fod ar ran grŵp cymunedol lleol, elusen, grŵp gwirfoddol neu fenter gymdeithasol sydd ag incwm cyfartalog o lai na £50,000 yn ystod y 12 mis diwethaf |
|
The Matthew Good Foundation
Every three months £10,000 is shared between 5 shortlisted projects that have a positive impact on communities, people or the environment. Applications must be on behalf of a local community group, charity, voluntary group or social enterprise that has an average income of less than £50,000 in the last 12 months |
|