Clychlythyr - 4/3/2021

Thursday, 04 March 2021
Clychlythyr - 4/3/2021
Cymerwch ran yn ein Harolwg Cysylltedd Digidol
Mae FfCyM-Cymru, ar y cyd â Ffederasiwn Clybiau Ffermwyr Ifanc (CFfI) Cymru,  NFU Cymru, Undeb Amaethwyr Cymru a’r Gymdeithas Tir a Busnesau Cefn Gwlad (CLA Cymru), wedi lansio arolwg gyda’r nod o greu darlun o gysylltedd digidol ar draws Cymru.
Cymerwch ran yn ein harolwg ar-lein i rannu eich profiadau gyda ni a rhannwch yr arolwg gydag eraill.
Mae’r arolwg yn gwbl ddienw ac yn agored i unrhyw un sy’n 16 oed neu’n hŷn.
Digital Connectivity Survey
NFWI-Wales has teamed up with the Wales YFC, NFU Cymru, the FUW and CLA Cymru to launch a survey to gather a picture of broadband and mobile connectivity across Wales.

Take part in the on-line survey to let them know about your experiences and please share the survey with others.

The survey is completely anonymous and is open to anyone aged 16 or over
 
Cyllideb 2021: Cliciwch yma i wybod mwy
Budget 2021: What you need to know
 
Swydd amser llawn barhaol ar gael yn MTIB ym Merthyr Tudful
Goruchwyliwr Gweithgynhyrchu, Gwaith Coed, Dodrefn, CNC, Gwaith Coed.
Dyddiad cau canol mis Mawrth.
I gael gwybodaeth lawn a sut i ymgeisio cliciwch yma
Permanent full time vacancy at MTIB in Merthyr Tydfil.
Manufacturing Supervisor, Woodworking, Furniture, CNC, Woodwork.
Deadline mid March.
For full information and how to apply click here
 
Cronfa Cefn Gwlad y Tywysog
Grantiau o hyd at £10,000 ar gyfer prosiectau arloesol sy'n meithrin gwydnwch drwy ddatrysiadau a arweinir gan y gymuned mewn pentrefi â phoblogaethau o lai na 3,000 o drigolion. Gall allbynnau'r prosiect gynnwys llesiant uwch; llai o unigedd; gwell darpariaeth o wasanaeth; mwy o wydnwch i gymunedau gwledig oroesi tywydd garw, achosion o Covid-19 yn y dyfodol, neu ddigwyddiadau tebyg; ayyb
Dyddiad cau 19 Mawrth
Prince’s Countryside Fund
Grants of up to £10,000 for innovative projects that build resilience through community-led solutions in villages with populations of less than 3,000 residents. Project outputs could include increased wellbeing; reduced isolation; improved service provision; greater resilience for rural communities to weather, future outbreaks of Covid-19, or similar events; etc. Deadline 19 March
 
Gall mentrau cymdeithasol yng Nghymru ymgeisio bellach i SIS Retail Academy 2021.
Mae SIS Retail Academy yn helpu busnesau ac entrepreneuriaid sydd wedi’u gyrru gan genhadaeth i adnabod, llunio a deall y camau sydd angen iddynt eu cymryd er mwyn creu, tyfu a lluniadu eu gweledigaeth a chael effaith fesuradwy yn eu cymunedau.
Mae’r Academi wedi gwahodd arbenigwyr y diwydiant o safon fyd-eang i ddarparu gweithdai rhyngweithiol ar bynciau megis marchnata a gwerthu, cynigion cynnyrch, storïa ac adnabod tueddiadau.
Mae ar agor i bob menter gymdeithasol sefydledig, os hoffech wybod mwy, ymunwch â'r sesiwn wybodaeth ar-lein ar 8 Mawrth.
Social enterprises in Wales can now apply for the SIS Retail Academy 2021.
The SIS Retail Academy helps mission-driven businesses and entrepreneurs recognise, formulate and understand the steps they need to take to create, grow and scale their vision and make a measurable impact in their communities.
The Academy hosts world-class industry experts delivering interactive workshops on topics such as marketing and selling, product propositions, storytelling and identifying trends.
It is open to all established social enterprises, if you’d like to know more, please join the online information session on 8 March.
 
Gweithdy Pecyn Cymorth i gael Mynediad i Wasanaethau Cyhoeddus – 16 Mawrth
Nod y gweithdy ydy cefnogi teuluoedd sydd yn wynebu anawsterau mewn perthynas â darpariaeth gwasanaethau cefnogi iechyd, gofal cymdeithasol ac addysg.
Dydy’r gweithdy ddim yn rhoi cyngor cyfreithiol a datrys problemau unigol, ond mae’n siarad am strategaethau cyffredinol y gall rieni eu defnyddio i gael y gwasanaethau maen nhw eu hangen ar gyfer eu plentyn a’u teulu.
Accessing Public Services Toolkit Workshop – 16 March. Free course.
The aim of the workshop is to support families who are encountering difficulties in relation to the provision of health, social care and education support services.
The workshop isn’t about giving legal advice or solving individual issues, but about general strategies that parents can use to get the services that they need for their child and family.
 
Cyllid Sefydliad Morrisons
Grantiau o hyd at £25,000 i elusennau cofrestredig sy'n gwneud gwahaniaeth i gymunedau lleol mewn modd cadarnhaol. 
Morrisons Foundation Funding. 
Grants of up to £25,000 to registered charities which make a positive difference in local communities 
 
Cynllun grantiau agored y Sefydliad Gweithwyr Dillad
Mae'r gronfa hon sy'n cefnogi prosiectau cyfalaf bellach wedi ailagor. Dylai ceisiadau fod gan elusennau neu sefydliadau dielw a gellir eu cyflwyno unrhyw bryd.
Clothworkers Foundation, Open Grants Programme
This fund supporting capital projects has now reopened. Applications should be from charities or not-for-profits and can be made at any time. 

 

Cadwch mewn cyswllt gyda ein rhwydwaith cymdeithasol

Ffrwd Twitter

Cylchlythyr Cofrestrwch Up

Tanysgrifio

cookies policy | privacy policy | sitemap

Copyright 2014. All Rights Reserved