Hwyl Fawr i Keith Simmonds

Thursday, 12 January 2017
Hwyl Fawr i Keith Simmonds

Wedi ychydig dros wyth mlynedd o weithio gyda Chwmnïau Cymdeithasol Cymru, mae Keith Simmonds yng Ngogledd Cymru wedi penderfynu mwynhau ymddeoliad cynnar - a’r profiadau amheuthun a ddaw yn sgil hynny - ac yn ein gadael ni ar Ionawr 31. 

Gan taw dim ond un person oedd yn ein cynrychioli ar draws hyd a lled Cymru yn ein dyddiau cynnar, Keith oedd yr aelod ychwanegol cyntaf i’r tîm, ac am wahaniaeth i sut oedden ni’n gallu ymateb i’r llwyth gwaith.  Yn ogystal â phâr ychwanegol o ddwylo, mi roddodd  hefyd  seinfwrdd hollbwysig  imi a’r Bwrdd o Gyfarwyddwyr, goleuni i’w ymddiried ynddo yn ambell i dywyllwch ac mi hwylusodd amgylchedd arbennig i rannu syniadau.  Wrth i’r tîm dyfu rhoddodd Keith drefn ac arweiniad i ni gyd,  a ni allaf ddechrau mynegi sut lwyddodd i greu’r drefn yna...buasai wedi bod yn haws iddo fod yn fugail ar gathod, criw digon afreolus ydym ni ar brydiau – dyn dewr hefyd felly !

Wrth edrych tua’r dyfodol, mi fydd ymrwymiadau presennol a phriodol  ac ymholiadau newydd yn cael eu trosglwyddo i Geoff Stevenson.  Mae Geoff wedi bod yn gweithio ochr yn ochr gyda Keith am dros bedair blynedd a ganddo felly wybodaeth , profiad a dealltwriaeth wych o Gwmnïau Cymdeithasol a’u nodweddion unigryw,  ac fe fydd ei ystod eang o sgiliau busnes yn parhau i wasanaethu Gogledd Cymru yn arbennig o dda.  Ni fydd yna newid i’r rhif cyswllt i Ogledd Cymru sef 07799 345 939.

Fe wnawn ni gweld eisiau Keith ac yn dymuno ymddeoliad iachus a heddychlon iddo - a hoe haeddiannol.

San Leonard , Cyfarwyddwr,  Cwmnïau Cymdeithasol Cymru 

Cadwch mewn cyswllt gyda ein rhwydwaith cymdeithasol

Ffrwd Twitter

Cylchlythyr Cofrestrwch Up

Tanysgrifio

cookies policy | privacy policy | sitemap

Copyright 2014. All Rights Reserved