Maniffesto Menter Gymdeithasol i Gymru 2025
Mae Cwmnïau Cymdeithasol Cymru yn rhan o'r Grŵp Rhanddeiliaid Mentrau Cymdeithasol, sy'n gweithio i ymgorffori Mentrau Cymdeithasol fel rhan allweddol o strategaeth economaidd Cymru yn y dyfodol.
Mae gan Fentrau Cymdeithasol, gan gynnwys Cwmnïau Cymdeithasol, y pŵer i drawsnewid cymunedau a chreu cyfleoedd cyflogaeth i bobl sydd wedi'u hymylu ledled Cymru. Gyda'n gilydd gallwn helpu i fynd i'r afael â diweithdra oherwydd anabledd ac allgáu cymdeithasol trwy bŵer Mentrau Cymdeithasol a Chwmnïau Cymdeithasol.
Yn y maniffesto hwn, rydym yn amlinellu pam y dylid ymgorffori mentrau cymdeithasol ym mhob maniffesto pob plaid wleidyddol ac yn nodi ein blaenoriaethau ar gyfer sut y gall Llywodraeth nesaf Cymru gefnogi'r sector mentrau cymdeithasol yng Nghymru. Rydym yn nodi ein huchelgais ar y cyd i wneud Cymru yn genedl mentrau cymdeithasol.
Lawrlwythwch ein Maniffesto yma