|
Newidiadau Bach, Effaith Fawr – Cefnogi Cwsmeriaid a Chleientiaid â Cholled Clyw 28 Mai 2026
Mae’r sesiwn hon yn cynnig golwg ymarferol, onest ac, ar adegau, ddoniol ar sut y gall newidiadau bach mewn cyfathrebu drawsnewid profiadau i gwsmeriaid a chleientiaid â cholled clyw.
Gyda chynghorion ymarferol ac enghreifftiau perthnasol, mae’r sesiwn yn meithrin hyder ac yn rhoi’r offer i gyfranogwyr greu profiadau mwy cynhwysol a chadarnhaol i bob cwsmer a chleient.
|