Oes gennoch chi syniad ar gyfer menter newydd? Ydych chi’n edrych am gymorth ac ariannu o’r newydd?
Fe fydd Cwmnïau Cymdeithasol Cymru yn cynnal Caffi Mentro efo UnLtd a Purple Shoots
Ydych chi’n gobeithio dechrau menter newydd, oes gennoch chi syniad da am fusnes? Ydych chi'n chwilio am gymorth i ddechrau neu ddatblygu menter Cwmni Cymdeithasol er mwyn creu cyfleodd i bobl anabl neu i bobl sydd yn cael eu diystyru gan y farchnad gwaith?
Ydych chi’n edrych am gyllid sbarduno neu fenthyciad bach i roi cynnig am eich syniad neu i’w ddatblygu yn ehangach? Dewch draw i weld sut gall Cwmnïau Cymdeithasol Cymru, UnLtd, a Purple Shoots eich helpu chi.
Does dim cost ynghlwm â’r sesiwn, ond mae llefydd yn brin felly os gwelwch yn dda archebwch o flaen llaw. Am fwy o wybodaeth ffoniwch : 07900 991 077 neu ebostiwch [email protected]
Dyddiad: Dydd Mawrth 14eg Chwefror 2017
Amser: 9.15pm – 12.45 pm
Lleoliad: Canolfan OpTIC Centre, Ffordd William Morgan, Parc Busnes Llanelwy, Llanelwy, LL17 0JD