Clychlythyr- 14/12/2023

Thursday, 14 December 2023
Clychlythyr- 14/12/2023
Mae hyd at £1 miliwn ar gael i ariannu busnesau, sefydliadau trydydd sector neu’r byd academaidd i weithio gyda’r sector cyhoeddus yng Nghymru i ddatblygu datrysiadau arloesol ar gyfer lleihau cynhyrchion untro.

Cynhaliwyd Digwyddiad Briffio ar-lein ar 16 Tachwedd am y cyfle ariannu hwn. Cliciwch yma i weld y recordiad

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 5 Ionawr 2024

Up to £1 million is available to fund businesses, third sector organisation or academia to work with the public sector in Wales to develop innovative solutions to reduce single use products.

A virtual Briefing Event on the funding opportunity was held on 16 November. Click here to access the recording.

The closing date for applications is 5 January 2024

Dysgu mwy am y gronfa | Learn more about the fund
 
Celfyddydau, Iechyd a Lles Rhaglen y Loteri
Nod y rhaglen yw cefnogi partneriaethau o bob rhan o'r celfyddydau, iechyd, gofal cymdeithasol a'r trydydd sector i gynnal prosiectau creadigol o safon sy'n rhoi manteision iechyd a lles i bobl Cymru.
Dyddiad cau: 17 Ionawr 2024
Arts, Health and Wellbeing Lottery Funding
The aim of this programme is to support partnerships from across the arts, health, social care and third sectors to provide high-quality creative projects that deliver health and wellbeing benefits for the people of Wales. Closing date 17 January
Darganfyddwch fwy yma | Find out more here
 
Mae’r platfform Gwirfoddoli Cymru sydd wedi’i ail-lansio yn ffordd syml, effeithiol, rhad ac am ddim i fudiadau a gwirfoddolwyr ddarganfod ei gilydd.
The re-launched Volunteering Wales platform is a simple, effective and completely free way for organisations and volunteers to find each other.
Darganfyddwch fwy yma | Find out more here
 
Cymorth yn y Gwaith
Ers i RCS ddechrau Gwasanaeth Cymorth yn y Gwaith Llywodraeth Cymru ar draws Gogledd, Gorllewin a De-orllewin Cymru yn gynharach eleni, RCS wedi darparu cymorth a therapïau am ddim i dros 600 o bobl i’w helpu i fynd i’r afael â phroblemau iechyd sy’n effeithio arnynt yn y gwaith.
In-Work Support Service
Since RCS launched the Welsh Government’s In-Work Support Service across North, West and Southwest Wales earlier this year, RCS have provided free support and therapies for over 600 people to help them address health issues affecting them in work.
Mynediad at gymorth | Access Support
 
Cyfieithir y cylchlythyr hwn gan
Welsh translation for this newsletter by
dai : lingual
 

 

Cadwch mewn cyswllt gyda ein rhwydwaith cymdeithasol

Ffrwd Twitter

Cylchlythyr Cofrestrwch Up

Tanysgrifio

cookies policy | privacy policy | sitemap

Copyright 2014. All Rights Reserved