Ar 3 Mawrth 2022, cynhaliodd Croeso Cymru, mewn partneriaeth â Cyfoeth Naturiol Cymru a Llwybr Arfordir Cymru, sesiwn ar-lein i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i randdeiliaid y diwydiant am y gweithgarwch sydd ar y gweill ar gyfer eleni, i ddathlu 10 mlynedd ers sefydlu Llwybr Arfordir Cymru.
Ewch i wefan Llwybr Arfordir Cymru i gael gwybod sut y gall eich busnes gymryd rhan yn y dathliadau pen-blwydd. Mae'r adnoddau sydd ar gael yn cynnwys:
-
Pecyn Busnes - Pecyn cymorth sydd wedi'i gynllunio i helpu busnesau arfordirol i farchnata eu busnes drwy ddefnyddio atyniad Llwybr Arfordir Cymru.
-
Pecyn cyfryngau 10fed pen-blwydd - Trosolwg o Lwybr Arfordir Cymru a beth sy’n digwydd yn ystod dathlu degfed ben-blwydd y Llwybr.
-
Cyngor a gwybodaeth ddefnyddiol i gynllunio ymweliad: Teithiau Cerdded; App Darganfod Llwybr Arfordir Cymru; Map Rhyngweithiol Llwybr Arfordir; Codau QR Mannau Hanesyddol mewn mannau o ddiddordeb.
|