Grant dechrau busnes carbon sero net
Cynllun peilot yw’r Grant dechrau busnes carbon sero net sy’n cynnig cymorth ariannol a thechnegol i:
-
Helpu egin fentrau cymdeithasol (neu fentrau sy’n dechrau) i gael eu busnes yn barod ar gyfer masnachu neu fuddsoddi
-
Ymwreiddio arferion sy’n ystyriol o’r hinsawdd mewn mentrau cymdeithasol newydd o’r diwrnod cyntaf
Mae’r cynllun yn agored i unrhyw fusnes cymdeithasol neu fudiad masnachu gwirfoddol yng Nghymru sy’n cychwyn ar ei daith. Nid oes angen i chi fod yn grŵp sy’n canolbwyntio ar yr amgylchedd neu’r newid yn yr hinsawdd i wneud cais. Diddordeb? Cliciwch yma
|