Cronfa Ecwiti - Dyddiad cau Mehefin
Mae Cwmnïau Cymdeithasol Cymru ac UnLtd wedi partneru i ganfod, ariannu a darparu cymorth i entrepreneuriaid cymdeithasol yng Nghymru, gan ganolbwyntio ar y rheini o gefndiroedd ymylol. Ariennir y cynllun Ecwiti gan Lywodraeth Cymru. Bydd yn gweithio tuag at y canlyniadau a nodir yn Trawsnewid Cymru drwy Fenter Gymdeithasol, gweledigaeth 10 mlynedd i hybu mentrau cymdeithasol fel y model busnes i'w dewis. Yng Nghymru, mae'r pandemig yn effeithio'n anghymesur ar bobl anabl, cymunedau Pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd ethnig, a phobl sy'n byw mewn tlodi (gwledig a threfol).
Rhwng mis Rhagfyr 2021 a mis Mawrth 2023 byddwn yn ceisio ariannu entrepreneuriaid cymdeithasol yng Nghymru sydd:
-
yn byw neu'n gweithio mewn ardaloedd sydd â chyfraddau tlodi uchel
-
yn Ddu, Asiaidd a/neu o gefndir lleiafrifoedd ethnig
-
yn anabl
-
â phrofiad uniongyrchol o'r materion cymdeithasol maent yn ceisio datrys
Dyddiad cau nesaf Y GRONFA ECWITI yw 30ain Mehefin.
Amserlen llawn o'r dyddiadau cau:
-
30ain Mehefin
-
31ain Medi
-
31ain Rhagfyr
|
Ecwiti Fund - June deadline
Social Firms Wales and UnLtd have partnered to find, fund and deliver support to social entrepreneurs in Wales, with a focus on those from marginalised backgrounds. The Ecwiti programme is funded by the Welsh Government. It will work towards the outcomes set out in Transforming Wales through Social Enterprise, a 10-year vision to see social. In Wales, disabled people, Black, Asian and minority ethnic communities, and people living in poverty (rural and urban) are all disproportionally affected by the pandemic.
Between December 2021 and March 2023, we will be looking to fund social entrepreneurs in Wales who:
-
live or work in areas with high poverty rates
-
are Black, Asian and/or from a minority ethnic background
-
are disabled
-
have direct lived experience of the social issues they are setting out to solve
The next ECWITI FUND deadline is 30th June
Full deadline timetable:
-
30th June
-
31st September
-
31st December
|
|