Newsletter - 23/3/2024

Monday, 25 March 2024
Clychlythyr - 23/3/2024

We are pleased to share with you that Rosie Cribb will soon be taking over the helm of Social Firms Wales. Rosie starts her new post on 3rd April taking over from San Leonard, retiring CEO, after almost 2 decades of commitment to the social enterprise sector in Wales. Many of you will know Rosie from Funding Assist. Rosie brings a wealth of knowledge, experience and expertise to the role having worked in the Third Sector for 22 years. She has first-hand experience of developing several social enterprises across the years especially those dedicated to creating jobs and opportunity to disabled people.
 
She is looking forward to taking up the role and meeting everyone. Rosie says, “I am delighted to take up the role of CEO of Social Firms Wales this April. I’m grateful to the board for the opportunity to lead this small but dynamic organisation, supporting the growth and sustainability of social firms across the country. . I have a long history of working within the Social Enterprise and charity sector, and I’m excited to work with members, partner organisations, and all stakeholders to drive forward new opportunities and support the creation of meaningful employment for anyone who experiences exclusion within the labour market. I look forward to getting to know you all.”

Rydym yn falch i ddatgan y bydd Rosie Cribb yn cymryd llyw Cwmnïau Cymdeithasol Cymru cyn bo hir. Bydd Rosie yn dechrau ei swydd newydd ar 3ydd Ebrill gan gymryd yr awenau o San Leonard, ein Prif Swyddog Gweithredol sy'n ymddeol wedi bron i 2 ddegawd o ymrwymiad i'r sector mentrau cymdeithasol yng Nghymru. Bydd llawer ohonoch yn adnabod Rosie o Funding Assist. Gan Rosie cyfoeth o wybodaeth, profiad ac arbenigedd ar gyfer y rôl ar ôl gweithio yn y Trydydd Sector am 22 mlynedd. Mae ganddi brofiad uniongyrchol o ddatblygu sawl menter gymdeithasol dros y blynyddoedd, yn enwedig rhai sy'n ymroddedig i greu swyddi a chyfle i bobl anabl.

Mae hi'n edrych ymlaen at ddechrau ar y gwaith a chwrdd â phawb. Meddai Rosie, "Rwy'n falch iawn o ymgymryd â rôl Prif Swyddog Gweithredol Cwmnïau Cymdeithasol Cymru ym mis Ebrill. Rwy'n ddiolchgar i'r bwrdd am y cyfle i arwain y sefydliad bach ond deinamig hwn, gan gefnogi twf a chynaliadwyedd cwmnïau cymdeithasol ledled y wlad. Mae gen i hanes hir o weithio yn y sector Menter Gymdeithasol ac elusennol, a rydw i'n teimlo'n gyffrous i weithio gydag aelodau, sefydliadau partner, a'r holl randdeiliaid i ysgogi cyfleoedd newydd a chefnogi creu cyflogaeth ystyrlon i unrhyw un sy'n cael eu hallgau o’r  farchnad lafur. Edrychaf ymlaen at ddod i adnabod chi gyd."
 
Croeso i'n haelod newydd Hanes Cerddoriaeth Caerdydd
Mae’r Cwmni Buddiannau Cymunedol Cardiff Music History yn cofnodi hanes cerddoriaeth Caerdydd; o gigs chwedlonol a bandiau Caerdydd anghofiedig i leoliadau a nosweithiau clwb sydd wedi hen ddiflannu.
Welcome to our new member Cardiff Music History CIC
Cardiff Music History CIC documents the music history of Cardiff. From legendary gigs, long forgotten Cardiff bands to venues and club nights that are long gone.
Darganfyddwch fwy yma | Find out more here
 
Croeso i Fentora Dynamig ein haelod newydd Chris Robbins
Yn darparu mentora, hyfforddi ac ymyriadau cyfannol a therapiwtig arloesol i bobl ifanc, yn arbennig y maes 'atal troseddu'.
Welcome to our new member Chris Robbins of Dynamic Mentoring
Providing mentoring, coaching and innovative holistic and therapeutic interventions for young people with a specialist area in ‘prevention of offending’.
 
Cronfa allweddol Sir Ddinbych 2023/2024
Mae'r Gronfa Allweddol yn rhaglen gyffrous i feithrin gallu sy'n cefnogi sefydliadau'r trydydd sector ledled Sir Ddinbych i ddod yn fwy gwydn a chynaliadwy trwy ddyrannu grantiau refeniw a chyfalaf untro sy'n amrywio o £2,000 i £50,000.  Dyddiad cau 31 Mawrth
Denbighshire Key fund 2023/2024
The Key Fund is an exciting capacity-building programme which supports third sector organisations across Denbighshire to become more resilient and more sustainable through the allocation of one-off revenue and capital grants ranging from £2,000 to £50,000.  Deadline 31 March
Darganfyddwch fwy yma | Find out more here
 
Grantiau Da
Gall grwpiau cymunedol lleol, elusennau, grwpiau gwirfoddol a mentrau cymdeithasol sy'n cael effaith gadarnhaol ar gymunedau, pobl neu'r amgylchedd - ac sydd ag incwm cyfartalog o lai na £50,000 yn ystod y 12 mis diwethaf ymgeisio am y gronfa hon. Y dyddiad cau ar gyfer y rownd nesaf yw 14 Ebrill
Grants for Good
Local community groups, charities, voluntary groups and social enterprises that has a positive impact on communities, people or the environment and have an average income of less than £50,000 in the last 12 months, may apply for this fund. Closing date for the next round is 14 April
Darganfyddwch fwy yma | Find out more here
 
Bydd y Cynllun Cydraddoldeb Hiliol, £75,000 dros 3 blynedd, ar agor ar gyfer ceisiadau ar 27 Mawrth ac mae wedi'i hanelu at elusennau a CBC sydd wedi eu harwain gan, ac yn gweithio gyda phobl sy'n profi annhegwch economaidd oherwydd eu hil neu ethnigrwydd.
The Racial Equality Programme, £75,000 over 3 years, will be open for applications on 27 March and is aimed at charities and CICs which are led by and working with people who are experiencing economic inequity because of their race or ethnicity.
Darganfyddwch fwy yma | Find out more here
 
Ymgrymuswch eich sefydliad di-elw gyda grantiau a gostyngiadau
Mae Microsoft Tech am Effaith Gymdeithasol yn ymroddedig i ddarparu technoleg fforddiadwy a hygyrch ac offer i helpu sefydliadau dielw o bob maint i gyflawni eu cenadaethau. Dyna pam eu bod yn cynnig grantiau a gostyngiadau ar gyfer eu cynhyrchion a'u gwasanaethau i sefydliadau di-elw cymwys ledled y byd.
Power your non-profit with Microsoft 365 grants and discounts
Microsoft Tech for Social Impact is dedicated to providing affordable and accessible technology and tools to help non-profits of all sizes achieve their missions. That’s why they offer grants and discounts for their products and services to eligible non-profits around the world.
Darganfyddwch fwy yma | Find out more here
 
Mae Arweinwyr Cymdeithasol Cymru yn gynllun datblygu arweinyddiaeth gynhwysfawr a rhad ac am ddim wedi'i theilwra ar gyfer arweinwyr mentrau gwirfoddol, cymunedol a chymdeithasol ledled Cymru.
Social Leaders Cymru is a comprehensive and free leadership development programme tailored for voluntary, community, and social enterprise leaders throughout Wales.
Darganfyddwch fwy yma | Find out more here
 
Mae fforwm Anabledd Busnes yn lansio cyfres weminar rhad ac am ddim i arwain sefydliadau drwy Gynllun Hyderus o ran Anabledd  Llywodraeth y Deyrnas GyfunolBydd y weminar gyntaf yn archwilio ac yn egluro'r 'cynnig o gyfweliad': ymrwymiad a wneir gan gyflogwyr i gynnig cyfweliad i'r holl ymgeiswyr anabl sy'n bodloni'r meini prawf hanfodol ar gyfer swydd a hysbysebir.
Business Disability forum is launching a free webinar series to guide organisations through the UK government's Disability Confident scheme. The first webinar will explore and demystify the ‘offer of an interview’: a commitment made by employers to offer an interview to all disabled applicants who meet the essential criteria for an advertised job.
Darganfyddwch fwy ac archebwch eich lle | Find out more and book your place
 
Cyfieithir y cylchlythyr hwn gan
Welsh translation for this newsletter by
dai : lingual
 

 

Cadwch mewn cyswllt gyda ein rhwydwaith cymdeithasol

Ffrwd Twitter

Cylchlythyr Cofrestrwch Up

Tanysgrifio

cookies policy | privacy policy | sitemap

Copyright 2014. All Rights Reserved